Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd
Q562 - 3 blynedd
Mae’r cynllun gradd newydd hwn yn y Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd yn gyfle i fyfyrwyr astudio iaith a llenyddiaeth y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i‘w deall, eu dadansoddi, a’u gwerthfawrogi fel rhan o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry a’r cenhedloedd eraill.
Dros dair blynedd, bydd myfyrwyr yn meithrin y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd, a magu dealltwriaeth o‘r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol. Mae natur yr arlwy o fodiwlau yn golygu y medrir cyfuno astudiaeth iaith, llenyddiaeth a diwylliant cyfoes neu hanesyddol, yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill. Dysgir Gwyddeleg a Llydaweg modern yn Rhan 1, a chynigir Hen Wyddeleg, Gwyddeleg Canol, Gaeleg yr Alban a chyrsiau Llydaweg Uwch yn Rhan 2. Treulir semester cyntaf y drydedd flwyddyn mewn prifysgol dramor, o dan gynllun Erasmws y Gymuned Ewropeaidd.
Erbyn iddynt raddio o’r cwrs hwn bydd gan ein myfyrwyr y gallu i fynegi eu hunain yn y Gymraeg ac yn yr ieithoedd Celtaidd yn hyderus, yn rhugl ac yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddant yn meddu hefyd ar sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i’w datblygiad personol, ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.