Yn ogystal â dilyn cynllun gradd yn y Gymraeg, y mae’n bosibl ichi yma (ac yma’n unig yng Nghymru) ddilyn cwrs gradd mewn Astudiaethau Celtaidd (sy’n cynnwys yr Wyddeleg yn ogystal â’r Gymraeg) neu radd gyfun yn yr Wyddeleg. Ond y Gymraeg yw dewis bwnc y mwyafrif o hyd, ac y mae Aberystwyth yn eu denu yn llu. Ein bwriad fel staff yw sicrhau i’r Adran ddyfodol mor ffyniannus â’i gorffennol, drwy gynnal ynddi safonau academaidd uchel, a thrwy gyflwyno ynddi gyrsiau deniadol, diddorol, a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg ar ddechrau mileniwm newydd.

Cyrsiau darlithio yw’r rhan fwyaf o’n cyrsiau, ond er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored cynhelir seminarau hefyd, lle mae’r awyrgylch yn fwy anffurfiol. Yr ydym yn cloriannu gwaith ein myfyrwyr drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.

Lefel 1

Y mae tair ffrwd o fyfyrwyr y Gymraeg yn y flwyddyn gyntaf, sef myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf, myfyrwyr a ddysgodd Gymraeg yn ail iaith, a dechreuwyr. Bydd y myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dilyn modiwlau craidd ar wahân ar hanes llenyddiaeth, arolwg beirniadol o lenyddiaeth ddiweddar, a modiwl ar yr iaith a’i hynt. Y mae modiwlau dewisol eraill ar gael hefyd ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith.

Lefelau 2 a 3

Daw’r ffrydiau ynghyd yn awr a chaiff myfyrwyr ddewis eu cyrsiau. Bydd myfyrwyr anrhydedd sengl yn dewis modiwlau (o blith rhyw ddeg ar hugain a gynigir dros ddwy flynedd), a bydd myfyrwyr anrhydedd cyfun yn dewis hanner y nifer honno. Y mae’r dewis yn amrywiol ac eang iawn – o gyrsiau ar y canu arwrol cynnar i lenyddiaeth o 1979 ymlaen, o ferched a llenyddiaeth hyd 1500 i ysgrifennu creadigol, o hen Gymraeg i’r Gymraeg yn y gweithle.

Cyfleusterau Astudio

Mae’r cyfleusterau astudio yn ddigymar o safbwynt y sawl sy’n astudio’r Gymraeg neu Astudiaethau Celtaidd. Yma y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn agos i Neuadd Pantycelyn) gyda’i hadnoddau dihysbydd, ac ar bwys y Llyfrgell y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Gall myfyrwyr Lefelau 2 a 3 gael Tocyn Darllenydd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Caiff pawb a fynn fynychu seminarau’r Ganolfan.

Gyrfaoedd

Y mae amrywiaeth o swyddi ardderchog ar gael i fyfyrwyr a chanddynt gymwysterau yn y Gymraeg a gwybodaeth am Gymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafwyd cynnydd dirfawr yn y gofyn am bobl a all gyfathrebu drwy’r Gymraeg. Y mae’n hollbwysig o safbwynt ffyniant yr iaith a’i diwylliant ein bod o hyd yn creu athrawon da a brwd. Y mae’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Denir rhai o’n graddedigion i feysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, a phobl i weinyddu ac i gyfieithu mewn llywodraeth leol. Heblaw’r swyddi amlwg hyn y mae eraill hefyd, megis cyhoeddi llyfrau, gweithio i’r Bwrdd Croeso, a masnach. Y mae nifer o’n graddedigion bob blwyddyn yn mynd rhagddynt i wneud gwaith ymchwil yn y Gymraeg.

Llydaweg Fodern

Llydaweg yw’r iaith Geltaidd fyw sydd fwyaf tebyg i’r Gymraeg, a cheir dau fodiwl ar yr iaith a’i llenyddiaeth yn Lefel 1. Gellir parhau i astudio’r pynciau hyn yn Lefelau 2 a 3 mewn modiwlau dewisol. Gall myfyrwyr sy’n astudio Llydaweg yn Lefel 2 ddilyn rhan o’u cwrs yn un o brifysgolion Llydaw. Cysylltwch â’r Adran am fanylion.

Ar gael ynghyd â:

Cymraeg Anrhydedd Cyfun gyda

  • Addysg - QX53*
  • Almaeneg - QR52*
  • Astudiaethau Americanaidd - TQ75*
  • Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel - QP51*
  • Astudiaethau Ffilm a Theledu - QWM6*
  • Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth - PQ15*
  • Astudiaethau Perfformio - QW53* + WQ45*
  • Celf (Celfyddyd Gain) - WQ1N*
  • Daearyddiaeth - LQ75*
  • Drama - QW54*
  • Ffrangeg - QR51*
  • Gwleidyddiaeth - LQ25*
  • Gwleidyddiaeth Ryngwladol - LQF5*
  • Hanes - QV51*
  • Hanes Celf - QV53*
  • Hanes Cymru - QVN1*
  • Llenyddiaeth Saesneg - QQ35*
  • Mathemateg - GQ15*
  • Sbaeneg - QR54*

Cymraeg Prif Bwnc/Is-bwnc ynghyd â

  • Almaeneg - Q5R2*
  • Busnes a Rheolaeth - Q5N1*
  • Daearyddiaeth - Q5L7*
  • Ffrangeg - Q5RC*
  • Gwleidyddiaeth - Q5L2*
  • Hanes - Q5V2*
  • Hanes Cymru - Q5VF*
  • Marchnata - Q5N5*
  • Sbaeneg - Q5R4*

* = Cwrs a ddysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol
drwy gyfrwng y Gymraeg

Gwybodaeth y Cynllun Astudio

Mae wybodaeth ar y tudalen hon yn cyfeirio i'r cynlluniau sy'n isod:

Set Gwybodaeth Allweddol