Dod i arfer â Bywyd Prifysgol
- Llyfrgelloedd, Cyfrifiaduron ac Adnoddau Eraill
- Cwestiynau a Holir yn Aml am Gyrsiau Prifysgol
- Pwy sy’n astudio yn Aberystwyth?
Mae eich barn o bwys i ni
Mae eich barn o bwys i niRhan allweddol o’r arolwg o ansawdd y dysgu yw barn y myfyrwyr ar amryw byd o faterion sy’n cynnwys maes llafur y cwrs ac ansawdd y darlithiau. Rydym yn rhoi pwys mawr ar farn ein myfyrwyr ac mae pob Adran yn dosbarthu holiadur i fyfyrwyr i gael eu hymateb. Mae trefniadau mewnol yn sicrhau
bod problemau a ddaw i’r amlwg trwy’r holiaduron yn cael eu datrys. Cynrychiolir myfyrwyr hefyd ar nifer o bwyllgorau pwysig y Brifysgol. Mae gan bob Adran Bwyllgor Staff-Myfyrwyr sy’n gyfrwng i gyfleu eich safbwynt yn uniongyrchol i’r rhai sy’n dysgu yn yr Adran.
Eich hawliau
Cyhoeddodd y Brifysgol Siarter sy’n egluro hawliau myfyrwyr. Gellir gweld Siarter y Brifysgol ar y wefan: Siarter Y Myfyrwyr