Llyfrgelloedd, Cyfrifiaduron ac Adnoddau Eraill

Llyfrgelloedd

Mae myfyrwyr Aberystwyth yn manteisio ar lyfrgelloedd modern a helaeth. Mae ynddynt le i tua 1,100 o fyfyrwyr astudio, gyda chyfuniad o fannau astudio i unigolion a grwpiau a mannau eistedd anffurfiol. Mae yma fwy na 700,000 o gyfrolau a mwy na 3,000 o gyfnodolion cyfredol. Mae dewis helaeth o adnoddau electronig ar gael ar ac oddi ar y campws, gan gynnwys e-gyfnodolion ac e-lyfrau, felly mae’r testunau allweddol ar gael 24 awr y dydd. Mae prif lyfrgell y Brifysgol, sef Llyfrgell Hugh Owen, ar agor am hyd at 77 awr yr wythnos yn ystod y tymor, ac mae staff sydd wedi eu hyfforddi ym meysydd llyfrgellyddiaeth a chyfrifiadureg ym law i ateb eich cwestiynau a rhoi cymorth yn ôl yr angen.

Cyfrifiaduron

Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o adnoddau cyfrifiadurol i gynorthwyo myfyrwyr. Mae tua 1,000 o gyfrifiaduron ar gael i fyfyrwyr eu defnyddio mewn gwahanol leoliadau. Ceir ystafelloedd cyfrifiaduron yn yr adeiladau dysgu a’r neuaddau preswyl ac mae sawl ystafell ar agor 24 awr y dydd. Trwy ddefnyddio’r cyfrifiaduron hyn gall myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth eang o feddalwedd, o raglenni Word i feddalwedd arbenigol megis pecynnau dadansoddi ystadegau ac offer GIS. Mae offer arall megis argraffwyr a sganwyr ar gael ledled yr ystafelloedd cyfrifiaduron.

Mae gan Aberystwyth rwydwaith chwim sy’n cynnig gwasanaethau megis ebost a’r We. Ceir hefyd rwydwaith diwifr ar gyfer y prif gampws gan gynnwys y caffis a’r barrau. Mae pwynt mynediad i’r rhwydwaith ym mhob ystafell breswyl ar y campws bron, ac mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth dîm arbennig o staff i gefnogi myfyrwyr sy’n defnyddio eu cyfrifiaduron eu hunain mewn neuaddau preswyl. Hefyd, gall tîm caffael y Gwasanaethau Gwybodaeth gynghori myfyrwyr ar brynu cyfrifiaduron a gliniaduron i’w defnyddio gydag adnoddau’r Brifysgol. Mae cefnogaeth a chyngor ar ddefnyddio ein hadnoddau cyfrifiadurol ar gael gan dimau cefnogi arbenigol, a threfnir amrywiaeth eang o gyrsiau i sicrhau y gallwch fanteisio i’r eithaf ar y gwasanaethau.

Labordy Iaith

Mae’r Labordy Iaith yn cynnig cyfleusterau rhagorol i ymarfer ieithoedd. Defnyddir pecynnau cyfrifiadur yn y Labordy i’ch helpu i ddysgu amryw ieithoedd (gan gynnwys Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Saesneg).

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn ogystal â bod yn un o brif sefydliadau Cymru, mae’r Llyfrgell Genedlaethol, am ei bod yn llyfrgell hawlfraint, yn derbyn copi o bob llyfr a gyhoeddir yng ngwledydd
Prydain. Mae’n gwasanaethu Cymru gyfan a gogledd Lloegr, ac nid oes llyfrgell hawlfraint arall yn nes na Rhydychen, Caergrawnt neu Lundain. Mae gan fyfyrwyr
Aberystwyth yr hawl i droi at unrhyw rai o’r 6 miliwn o gyfrolau, mapiau a phrintiadau yn y Llyfrgell Genedlaethol.