Addasu i Fywyd Myfyrwyr
Wrth ichi fynd drwy’r broses o ymgeisio, efallai y teimlwch ei fod yn fyd gwahanol. Peidiwch â phoeni. Bydd termau fel semester, modiwl a dulliau asesu yn swnio’n ddieithr, ond yn ystod eich wythnos gyntaf byddwn yn eich cyflwyno i’r rhain oll a llawer mwy. O fewn ychydig wythnosau bydd eich pryder yn angof gennych. Rydym yn cymryd cryn ofal i sicrhau bod myfyrwyr yn addasu’n gyflym ac yn llwyddiannus i waith academaidd a bywyd myfyrwyr. Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Gynghorau Cyllido Addysg Uwch y Llywodraeth yn dangos bod llai o fyfyrwyr yn rhoi’r gorau i’w cyrsiau yn Aberystwyth cyn gorffen na bron unrhyw brifysgol arall yng ngwledydd Prydain. Mae symud ymlaen i Brifysgol, o’r ysgol neu goleg, o adre neu o swydd, yn dipyn o her. Oherwydd hynny, rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i wneud y profiad yn un hwylus, hwyliog a di-bryder.
Torri'r Garw
Bydd eich penwythnos cyntaf yn Aberystwyth yn gyfnod wedi ei drefnu’n benodol i’ch cyflwyno i bob agwedd ar fywyd yn y Brifysgol. Byddwch yn cwrdd â’ch Adran a gweld y cyfleusterau academaidd, cymdeithasol a diwylliannol sydd ar gael, a chlywed am y sgiliau astudio a fydd yn eich helpu i lwyddo yn eich cwrs. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cynnal Ffair y Glas i roi cyfle i fyfyrwyr newydd gwrdd myfyrwyr sydd eisoes yn astudio yma, ymuno â chymdeithasau a chlybiau a chanfod gweithgareddau a diddordebau oddi allan i’r cwricwlwm i lenwi’r oriau hamdden hynny sy’n rhan o brofiad prifysgol.
Sgiliau Astudio
Trwy gydol eich cyfnod o astudio yma yn Aberystwyth fe gewch chi gyfle i feithrin sgiliau a fydd yn werthfawr mewn swydd. Mae’r rhain yn cynnwys cyfathrebu, rheoli amser, defnyddio cyfrifiaduron a sgiliau cyflwyno, ac mae sawl adran yn cynnig modiwlau penodol i ddysgu sgiliau proffesiynol. Gall myfyrwyr Aberystwyth hefyd fanteisio ar Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth.
Tiwtoriaid Personol
Dynodir Tiwtor Personol ar eich cyfer i ofalu bod eich cynnydd academaidd yn foddhaol. Gall eich Tiwtor Personol roi cyngor i chi ar broblemau personol neu gall eich cyfeirio at arbenigwyr eraill a fydd yn eich helpu â materion penodol.
Mae eich barn o bwys i ni
Rhan allweddol o’r arolwg o ansawdd y dysgu yw barn y myfyrwyr ar amryw byd o faterion sy’n cynnwys maes llafur y cwrs ac ansawdd y darlithiau. Rydym yn rhoi pwys mawr ar farn ein myfyrwyr ac mae pob Adran yn dosbarthu holiadur i fyfyrwyr i gael eu hymateb.
Mae trefniadau mewnol yn sicrhau bod problemau a ddaw i’r amlwg trwy’r holiaduron yn cael eu datrys. Cynrychiolir myfyrwyr hefyd ar nifer o bwyllgorau pwysig y Brifysgol. Mae gan bob Adran Bwyllgor Staff-Myfyrwyr sy’n gyfrwng i gyfleu eich safbwynt yn uniongyrchol i’r rhai sy’n dysgu yn yr Adran.
Eich Hawliau
Cyhoeddodd y Brifysgol Siarter sy’n egluro hawliau myfyrwyr.
Dysgu Rhagorol
Yn y datganiad swyddogol o’n hamcanion rydym yn cyfeirio’n benodol at ein bwriad o ragori yn ein holl weithgareddau. Mae rhaglenni cenedlaethol asesu ansawdd dysgu wedi eu cynnal yn y blynyddoedd diwethaf ac maent yn barnu bod 50% o’n myfyrwyr yn astudio mewn adrannau a ddyfarnwyd yn ‘Rhagorol’, sef y raddfa uchaf y gellir ei dyfarnu. Mae gennym ein rhaglen arolygu fewnol hefyd sy’n cadw golwg ar ansawdd y gwaith dysgu.
Dyfarnwyd y pynciau isod yn ‘Rhagorol’ yn yr arolwg ar ansawdd y dysgu a gynhaliwyd gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch:
- Cyfrifeg a Chyllid
- Gwyddorau Biolegol
- Astudiaethau Celtaidd
- Economeg
- Saesneg
- Gwyddor Daear Amgylcheddol
Yn ychwanegol cafodd yr Adran Gyfrifiadureg farciau llawn yn arolwg yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yn y meysydd isod:
- Cyfrifiadureg
- Cyfrifiadureg i’r Rhyngrwyd
- Peirianneg Meddalwedd