Pwy sy’n astudio yn Aberystwyth?
Er bod y Brifysgol yn dal i fod yn gyfleuster pwysig i genedl y Cymry, mae dros 60% o’n myfyrwyr yn dod o’r tu allan i Gymru. Mae myfyrwyr o 90 o wledydd ledled y byd yn cael eu denu i astudio yng nghymuned academaidd unigryw Aberystwyth. Golyga hyn fod ein cymdeithas ni yma yn llawer mwy cosmopolitaidd na’r hyn sy’n arferol ym mhrifysgolion Cymru.
Yn Aberystwyth byddwch yn rhan o gymuned gosmsopolitaidd ac yn mwynhau’r profiad o astudio ochr yn ochr â phobl o bob rhan o’r byd. Mae maint y dref yn creu cymdeithas glòs, gyfeillgar ac yn ychwanegu at yr ymdeimlad o frawdgarwch.
Daw ein myfyrwyr o gefndiroedd cymdeithasol o bob math. 51/49 yw’r gymhareb rhwng dynion a menywod.
Allwedd
- Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Dwyrain Lloegr
- Llundain
- Gogledd Ddwyrain Lloegr / Swydd Efrog / Humberside
- Gogledd Orllewin a Glannau Merswy
- De Ddwyrain Lloegr
- De Orllewin Lloegr
- Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Gweddill Ewrop
- Gweddill y Byd
- Yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Cymru