Ffioedd a chyllid

Wrth ystyried ffioedd a chyllid prifysgol, mae tri phrif beth sylfaenol: ffioedd dysgu, benthyciadau i fyfyrwyr a chyfleoedd eraill i gael cyllid ychwanegol.

  • Ffioedd dysgu
    Mae’r rhain yn talu am gostau eich astudiaethau yn Aberystwyth, gan gynnwys arholiadau, graddio a mwy.
  • Benthyciadau i fyfyrwyr
    Mae benthyciadau a grantiau ar gael i chi i’ch helpu i ariannu’ch astudiaethau yn Aberystwyth ac maent yn amrywio yn dibynnu o ble rydych yn dod h.y. o Gymru, y DU neu wledydd yr UE.
  • Cyfleoedd cyllid ychwanegol
    Mae’r rhain yn cynnwys: ysgoloriaethau a bwrsariaethau’r Brifysgol, lleoliadau gwaith rhan-amser, blwyddyn mewn cyflogaeth, nawdd a rhagor.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn ffynonellau arian ychwanegol, ac yn annibynnol ar fenthyciadau neu grantiau arferol y llywodraeth, ac nid oes raid eu talu’n ôl!

 

Gweler y dudalen ar Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau