Ariannu eich Astudiaethau
Benthyciadau
Myfyrwyr o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Benthyciad i dalu costau byw gan y Llywodraeth/Awdurdod Addysg Lleol – gallwch gael benthyciad o hyd at £4,745 os ydych yn byw oddi cartref. Gall pob myfyriwr fenthyg 75% o’r benthyciad hwn – mae’r 25% arall yn amodol ar brawf modd gan eich awdurdod addysg lleol.
- Benthyciad i dalu ffioedd gan y Llywodraeth – gallwch gael benthyciad i dalu cost lawn y cwrs: £3,290 yn Aberystwyth yn 2010/11 a’r blynyddoedd canlynol gyda chynnydd bychan ar gyfer chwyddiant. Telir y benthyciad yma yn uniongyrchol i’r Brifysgol – mae ar gael i bawb ac nid yw’n dibynnu ar incwm eich teulu.
- Cofiwch nad oes angen i chi ad-dalu unrhyw fenthyciad hyd y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau ac yn ennill o leiaf £15,000.
Am ragor o wybodaeth am gymorth i fyfyrwyr o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gweler:
Lloegr: Department for Innovation, Universities & Skills - Student Support
Yr Alban: Student Awards Agency for Scotland
Gogledd Iwerddon: Student Finance Northern Ireland