Ariannu eich Astudiaethau

Benthyciadau

Myfyrwyr o Gymru

  • Benthyciad i dalu costau byw gan Gyllid Myfyrwyr Cymru – gallwch gael benthyciad cynhaliaeth o hyd at £4,745 ar hyn o bryd os ydych yn byw oddi cartref. Gall pob myfyriwr fenthyg 75% o’r benthyciad hwn – mae’r 25% arall yn amodol ar brawf modd gan eich awdurdod addysg lleol.
  • Benthyciad i dalu ffioedd gan Gyllid Myfyrwyr Cymru – gallwch gael benthyciad i dalu cost lawn y cwrs (£3,290 yn Aberystwyth yn 2010/11 a’r blynyddoedd canlynol gyda chynnydd bychan ar gyfer chwyddiant).
  • Cofiwch nad oes angen i chi ad-dalu unrhyw fenthyciad hyd y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau ac yn ennill o leiaf £15,000.

Am ragor o wybodaeth am gymorth i fyfyrwyr o Gymru gweler: Cyllid Myfyrwyr Cymru