Ffynonellau cymorth eraill
Rhoddion Elusennol
Efallai y byddwch yn gallu cael grantiau gan gyrff elusennol neu gyrff eraill sydd wedi neilltuo arian at gyrsiau penodol neu fathau arbennig o fyfyrwyr. Mae’n werth cael cip ar The Directory of Grant-Making Trusts, a gyhoeddir gan y Sefydliad Cymorth Elusennau (Charities Aid Foundation) a The Grants Register a gyhoeddir gan Macmillan. Dylai’r llyfrau hyn fod ar gael yn eich llyfrgell gyhoeddus leol. Gall myfyrwyr yn yr Alban holi Adran Addysg yr Alban am wybodaeth ynglŷn â’r Gofrestr o Waddoliadau Lleol.
Swyddi a gwaith rhan-amser
Bydd rhai myfyrwyr yn dod o hyd i waith gwyliau neu waith rhan-amser yn ystod eu cyrsiau. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth fawr o swyddi rhan-amser i fyfyrwyr. Mae’r swyddi’n amrywio o gynorthwywyr arlwyo i arddangoswyr mewn labordai gwyddonol. Mae’n bwysig gofalu nad yw unrhyw swydd yn amharu ar eich gwaith academaidd. Cofiwch hefyd y gallai eich enillion gael effaith ar eich grant, neu ar yr ad-daliad treth ar gyfamod. Mae’r Brifysgol yn trefnu cynllun Cyswllt Swyddi i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i swyddi rhan-amser addas.
Blwyddyn mewn Gwaith
Gallwch ddewis treulio blwyddyn mewn gwaith cyflogedig. Cewch fanylion gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd.
Cronfeydd Ariannol wrth Gefn a Chronfeydd Caledi
Mae gan y Brifysgol Gronfeydd Ariannol wrth Gefn i roi cymorth i chi os ydych yn wynebu trafferthion ariannol yn ystod eich cwrs. Gellir rhoi cymorth ar sail ddethol ar ffurf grantiau neu fenthyciadau lle gwelir bod angen gwirioneddol. Mae’r cymorth hwn ar gael i’r holl fyfyrwyr cartref sydd ar gyrsiau rhan-amser ac amser llawn neu ryng-gyrsiau.
Gellir cael ffurflenni cais o’r Swyddfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr, Adeilad Cledwyn (01970 621760)
Nawdd
Bydd rhai cwmnïau mawr a’r gwasanaethau yn cynnig nawdd i fyfyrwyr. Mae nawdd ar gael fel arfer i fyfyrwyr sy’n astudio peirianneg, cyfrifiadureg, astudiaethau busnes, gwyddoniaeth ac ieithoedd. Gall nawdd gan gwmni gynnig gwaith ac arian i chi yn ystod y gwyliau. Benthyciadau Datblygu Gyrfa Gall Benthyciad Datblygu Gyrfa dalu am unrhyw fath o gwrs galwedigaethol amser llawn, rhan-amser neu ddysgu o bell ac mae benthyciadau hyd at £8,000 ar gael.
Am ragor o wybodaeth gweler neu cysylltwch â’r llinell gymorth Benthyciadau Datblygu Gyrfa ar 0800 585505.
Cewch esboniad llawn o’r trefniadau cymorth ariannol i fyfyrwyr yn llyfryn yr Adran Addysg a Sgiliau ‘A Guide to Financial Support for Higher Education Students in 2007/2008’.
Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl
Gallwch hawlio cymorth ariannol o sawl ffynhonnell, gan ddibynnu ar y math o anabledd sydd gennych. Mae’r Lwfans Myfyrwyr Anabl yn cynnig ystod o gymorth ariannol, ac mae’n bosibl y gallwch gael grant ychwanegol i dalu costau teithio. Bydd rhai myfyrwyr anabl yn gallu hawlio budd-dâl gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol hefyd. Am ragor o fanylion cysylltwch â Chynghorydd Budd-daliadau’r Adran Nawdd Cymdeithasol neu SKILL (Canolfan Genedlaethol Myfyrwyr Anabl)
ar (0171) 274 0565. Y Swyddog Anabledd yw eich dolen gyswllt yn Aberystwyth: (01970) 628537.
Costau Teithio
Ni ellir hawlio’n ôl gan yr awdurdod lleol gostau teithio sydd yn fwy na’r lwfans a geir yn y grant. Felly gall myfyrwyr sydd yn byw ar y campws neu’n agos iddo arbed arian sylweddol drwy beidio â gorfod teithio bob dydd. Mae myfyrwyr yn Aberystwyth yn arbennig o ffodus oherwydd bod gan y Brifysgol lety yn Aberystwyth ar gyfer yr holl fyfyrwyr a chan fod digon o ystafelloedd ar rent ar gael yn y dref. Yn ogystal â hyn gellir teithio’n rhatach ar y bysiau a’r trenau ar ddechrau ac ar ddiwedd pob tymor.