Gwneud Cais i Astudio yn Aberystwyth
ABWTH A40 yw ein cod ni
- Gwneud Cais
- Mathau o Ymgeiswyr
- Penderfyniadau Prydlon
- Cadarnhau Cymwysterau
- Ffurflenni UCAS Cymraeg
- Cyfweliadau ac Ymweliadau
Sylw Cyfartal
Gall pawb wneud cais i astudio yn Aberystwyth. Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail rhyw, oed, tarddiad ethnig, anabledd, crefydd, statws priodasol, statws fel rhiant, nac unrhyw beth tebyg. Bydd pob cais a gawn yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiannau ei hun.
Ehangu Mynediad
Yn Aberystwyth rydym wedi ymrwymo i ehangu mynediad. Mae’r Brifysgol yn trefnu, mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch a phellach lleol eraill, Ysgol Haf Gorllewin Cymru, sy’n gwarantu mynediad i fyfyrwyr o gefndiroedd lle nad oes traddodiad cryf o fynd ymlaen i addysg uwch. Ar ben hyn, bu gan Aberystwyth bolisi hyblyg tuag at dderbyn myfyrwyr hŷn nad oes ganddynt, yn aml, gymwysterau mynediad confensiynol. Mae gan Aberystwyth nifer o fwrsariaethau i rai sy’n gadael coleg/ysgol ac sydd â theuluoedd ar incwm isel.