Gwneud Cais
Pryd i wneud cais
Gwneir ceisiadau trwy UCAS. Gallant ddechrau prosesu ceisiadau ar gyfer mynediad yn Hydref 2009 o’r 1af o Fedi 2008. Y cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth yw:
UCAS Application Requests
PO Box 28
Cheltenham
Glos GL52 3ZA
Ffôn +44 (0) 870 112 2200
Ebost: app.req@ucas.ac.uk
Gwefan www.ucas.com
Cynghorir ymgeiswyr i wneud ceisiadau mor fuan ag y byddant wedi ystyried sefydliadau a chyrsiau a dod i benderfyniad gofalus. Byddai o fudd i bob ymgeisydd i wneud cais cyn 15 Ionawr. Mae UCAS yn derbyn y gall hyn fod yn anodd i rai ymgeiswyr, yn enwedig y rhai hynny o du allan y DU. Derbynnir ceisiadau a ddaw i law yn hwyr gan UCAS am weddill y flwyddyn geisiadau. Mae UCAS yn cynghori mai mater i’r sefydliadau unigol yw ystyried ceisiadau hwyr, ac na ellir gwarantu y byddant yn derbyn yr un lefel o ystyriaeth â’r ceisiadau a fydd wedi eu derbyn erbyn 15 Ionawr. Mae Aberystwyth, fodd bynnag, yn barod i roi ystyriaeth i geisiadau ar gyfer pob cwrs, pryd bynnag y derbyniwyd y cais.
Gwneud cais ar lein ar www.ucas.com. Ar gyfer pob cwrs addysg uwch llawn-amser mewn prifysgolion a cholegau yn y DU, rhaid i fyfyrwyr wneud cais ar lein ar www.ucas.com