Mathau o Ymgeiswyr

Mae tri math o ymgeisydd:

1. Myfyriwr mewn ysgol neu goleg sydd wedi cofrestru gydag UCAS
Mae pob ysgol a choleg yn y DU (a nifer fach o sefydliadau tramor) wedi eu cofrestru gydag UCAS er mwyn rheoli ceisiadau eu myfyrwyr. Mae gwybodaeth ar gael gan eich athro/athrawes neu’ch cynghorydd gyrfaoedd yn eich ysgol neu goleg. Gallwch lenwi’r ffurflen i mewn arlein a’i chyflwyno i aelod o staff. Wedi gwirio eich manylion, ac ychwanegu’r cyfeirnod academaidd, mae eich ysgol neu goleg yn cyflwyno’r cais wedi’i lenwi arlein i UCAS. Gallwch dalu arlein drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Efallai hefyd y bydd modd i chi dalu drwy’ch ysgol neu goleg.

2. Ymgeiswyr annibynnol yn y DU
Mae ymgeiswyr eraill o’r DU, nad ydynt mewn ysgol neu goleg, yn gwneud cais arlein yn annibynnol. Mae’n debyg eich bod yn ymgeisydd aeddfed, ac yn wahanol i fyfyriwr ysgol neu goleg gan eich bod yn methu cael cyngor parod gan eich athro. Fodd bynnag, mae modd i chi ymgynghori gyda sefydliadau gyrfaoedd (megis Connexions). Chi sy’n gyfrifol am dalu’r ffi gywir, am gael gafael ar y cyfeirnod academaidd cywir a’i atodi, ac am gyflwyno’r cais terfynol arlein i UCAS.

3. Ymgeiswyr rhyngwladol y tu allan i’r DU (UE a byd-eang)
Ar wahân i’r rhai hynny y mae eu hysgol neu goleg wedi cofrestru gydag UCAS, mae unigolion o’r UE (heblaw am y DU), a byd-eang, yn gwneud cais arlein yn annibynnol. Mae cyngor ar gael gan swyddfeydd y Cyngor Prydeinig a chanolfannau eraill dramor, megis eich ysgol neu goleg. Chi sy’n gyfrifol am dalu’r ffi gywir, am gael gafael ar y cyfeirnod academaidd cywir a’i atodi, ac am
gyflwyno’r cais terfynol arlein i UCAS.

Mae cyfarwyddiadau llawn ar gyfer pob ymgeisydd ar www.ucas.com sy’n ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi lenwi eich cais arlein, yn ogystal â thestun cynorthwyol lle mae’n addas. Mae gan UCAS hefyd ganllawiau cynhwysfawr o’r enw Applying Online, y gellir ei lawrlwytho oddi ar www.ucas.com.