Penderfyniadau Prydlon

Credwn ei bod yn bwysig bod ymgeiswyr yn cael gwybod beth yw canlyniad eu cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer byddwch yn clywed oddi wrth Aberystwyth o fewn 4 wythnos man pellaf ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais. Os bydd angen cynnal cyfweliad neu os ydych yn cyflwyno portffolio gallai’r penderfyniad gymryd ychydig yn hirach.