Cadarnhau Cymwysterau
Rhaid i’r holl fyfyrwyr israddedig newydd fedru profi eu bod wedi bodloni’r amodau academaidd angenrheidiol am fynediad, gan gynnwys gofynion am yr iaith Saesneg neu’r iaith Gymraeg. Gallwn ofyn, cyn cofrestru neu ar ôl hynny, i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o’ch cymwysterau yn ogystal â phrawf o’ch enw. Rydym yn diogelu’r hawl i ddileu’r cynnig am le neu i ddileu’r cofrestriad os bu twyll neu hepgor gwybodaeth yn fwriadol. Nid oes angen i chi anfon dogfennau at y Brifysgol oni ofynnwyd yn benodol i chi wneud hynny.