Cyfweliadau ac Ymweliadau
Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwahoddiad i ymweld â’r Brifysgol. Trefnir cyfres o ddiwrnodau ymweld o fis Tachwedd i fis Mai. Mae’n bosib y gofynnir i rai ymgeiswyr ddod am gyfweliad, ond gwneir y rhan fwyaf o gynigion ar sail y cais trwy UCAS. Rydym yn annog ein hymgeiswyr i ymweld ag Aberystwyth er mwyn gweld ein cyfleusterau drostynt eu hunain. Rydym yn falch o gyfrannu at rai o’r costau teithio (o fewn y DU) i Ddiwrnodau Ymweld Swyddogol, ar yr amod eich bod wedi gwneud cais i Aberystwyth trwy UCAS.