Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Derbyn Myfyrwyr FAQ's

Cwestiwn: Pa bwyntiau fydd eu hangen arnaf i gael mynediad i Aberystwyth?

Atab: Rydym yn defnyddio Rhestr UCAS i roi hyblygrwydd ichi gwrdd â thelerau'r cynnig. Mae'r manylion llawn am yr holl bwyntiau sydd eu hangen i gael mynediad i'n cyrsiau gradd israddedig i'w gweld ar y we. Yma gallwch ddod o hyd yn hawdd i fanylion am y pwyntiau y byddwch eu hangen er mwyn ymuno â ni i ddilyn y cwrs o'ch dewis. Rydym yn gweithredu amrywiaeth o gynigion i gwrdd â'ch anghenion unigol yn ogystal â chymwysterau nad ydynt yn rhan o Restr UCAS. Rydym hefyd yn derbyn myfyrwyr hyn. Os hoffech gael gwybodaeth ychwanegol, anfonwch e-bost at un o'n Tiwtoriaid Derbyn. Mae manylion eu cyfeiriadau e-bost i'w gweld ar ddiwedd pob un o'r disgrifiadau cwrs.

Rhagor o wybodaeth >>

Cwestiwn: Beth yw cod sefydliadol UCAS ar gyfer Prifysgol Cymru Aberystwyth?

Atab: Cod UCAS ar gyfer P.C.A. yw ABWTH A40. Gellir cael rhagor o wybodaeth am wneud cais i astudio yn Aberystwyth ar ein tudalennau gwybodaeth i Israddedigion.

Rhagor o wybodaeth >>

Cwestiwn: A yw Aberystwyth yn derbyn Sgiliau Allweddol?

Atab: Ydy, mae'r Brifysgol yn derbyn Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol Lefel 3 ac uwch fel rhan o'r broses mynediad. Rhown y pwysiant y mae Rhestr UCAS yn ei awgrymu ar gyfer Sgiliau Allweddol. Rydym hefyd yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol Uwch Gyfrannol (AS) a Lefel A.

Rhagor o wybodaeth >>

Cwestiwn: Sut y gallaf archebu prosbectws?

Atab: Mae'n hawdd archebu prosbectws (Cymraeg neu Saesneg). Cliciwch ar y botwm isod i fynd â chi at ffurflen fel y gallwch archebu copi yn electronig.

Rhagor o wybodaeth >>

Cwestiwn: Rwyf i'n ymgeisydd rhyngwladol, pa gymwysterau iaith Saesneg fydd eu hangen arnaf i gael mynediad i Aberystwyth?

Atab: Saesneg neu Gymraeg yw iaith y dysgu. Er mwyn ichi ddilyn ein cyrsiau yn llwyddiannus, bydd angen gwybodaeth dda o Saesneg neu Gymraeg arnoch. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau iaith Saesneg i'w mynychu cyn dechrau'r cwrs a chefnogaeth yn ystod eich cyfnod astudio. Am fanylion, trowch at y Ganolfan Iaith a Dysgu. Mae nifer o fyfyrwyr o dramor wedi dewis dod i Aberystwyth i astudio oherwydd bod ganddynt ddiddordeb arbennig mewn pynciau Cymreig a Cheltaidd a bod arbenigedd yn y pynciau hynny ar gael yma.

Rhagor o wybodaeth >>

Cwestiwn: Beth yw polisi'r Brifysgol ar ohirio mynediad?

Atab: Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n gohirio mynediad ac yn cydnabod bod ymgeiswyr yn gohirio am nifer o resymau - i deithio'r byd neu i ennill arian. Os yw'ch blwyddyn allan yn gysylltiedig â'ch astudiaethau, gorau oll!

Rhagor o wybodaeth >>