Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Cyrsiau/Astudio FAQ's
Cwestiwn: Sawl awr fyddaf yn eu treulio mewn darlithoedd?
Atab: Bydd yr amser a dreuliwch mewn darlithoedd yn dibynnu ar natur eich cwrs. Mae rhai o'n pynciau academaidd yn y gwyddorau yn gofyn am ryw 20 awr yr wythnos o waith ymarferol yn y labordy. Bydd llai o oriau cyswllt uniongyrchol â staff ym mhynciau'r celfyddydau, ond bydd disgwyl ichi dreulio'ch amser yn darllen ac yn gwneud gwaith gosod yn y llyfrgell.
Cwestiwn: Pa gyrsiau sydd ar gael?
Atab: Rydym yn cynnig dros 520 o wahanol gyfuniadau o bynciau academaidd, ac mae gennym nifer o gyrsiau a ddysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau hynny wedi eu nodi'n glir yn Llawlyfr UCAS.
Cwestiwn: A allaf astudio pwnc arall gyda fy ngradd?
Atab: Mae pob un o'n cynlluniau gradd yn fodiwlar, felly, yn amodol ar gyfyngiadau'r amserlen, fe allwch astudio modiwlau dewisol mewn pynciau eraill, ynghyd â modiwlau gorfodol eich cynllun gradd.
Cwestiwn: Pa mor hawdd fydd newid cynllun gradd os byddaf yn penderfynu fy mod wedi gwneud y dewis anghywir?
Atab: Bydd gennych flwyddyn gyfan i benderfynu a yw eich cynllun gradd yn iawn ar eich cyfer chi. Cyn belled ag eich bod yn cyflawni'r gofynion mynediad angenrheidiol ac yn astudio'r modiwlau priodol yn eich blwyddyn gyntaf, yna bydd hi'n bosibl ichi newid eich cynllun gradd heb golli blwyddyn.
Cwestiwn: A fydd cyfle i astudio dramor?
Atab: Rydym yn trefnu Rhaglen Gyfnewid â Gogledd America a Rhaglen Socrates Erasmus (Cyfnewid ag Ewrop). Mae nifer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith fel y gallant fynd dramor am flwyddyn yn ystod eu hastudiaethau.
Rhagor o wybodaeth >>