Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cyffredinol FAQ's

Cwestiwn: O b'le y daw myfyrwyr Aberystwyth?

Atab: Daw tua thraean o fyfyrwyr Aber o Gymru, tra daw'r gweddill o bob rhan o Brydain ac Iwerddon ac o ragor na phedwar ugain o wledydd tros y byd. Rydym ar un waith yn ymhyfrydu yn ein Cymreictod a'n cosmopolitaniaeth; cewch gyfle i fwynhau'r profiad o astudio gyda phob math o bobl mewn cymuned gyfeillgar lle mae'r ymdeimlad o berthyn yn gryf.

Cwestiwn: Beth yw manteision lleoliad Aberystwyth?

Atab: Mae'r dref lan-môr hyfryd hon ar lannau Bae Ceredigion yn gwbl ganolog i Gymru ac mae hi'n llwyddo i bontio'r de a'r gogledd yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol. O'r herwydd mae Aber yn ddewis poblogaidd a chyfleus i fyfyrwyr o bob rhan o'r wlad. Mae hi'n ardal ddiogel iawn hefyd sydd â nifer isel iawn o droseddau sy'n golygu bod costau yswiriant yn sylweddol is nag mewn ardaloedd trefol. Rydym yn falch iawn hefyd fod arfordir a chefn gwlad rhagorol Ceredigion ar garreg ein drws - mae'n wych ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon dwr o bob math neu hyd yn oed astudio wrth dorheulo ar y traeth! Byddai cyfle fel yna yn amhosibl yn y dinasoedd. Ond os byddwch yn dymuno teithio oddi yma rywdro, cofiwch fod gwasanaeth trên rheolaidd rhwng y dref a phrif ddinasoedd Prydain, tra bydd y Traws Cambria enwog yn gallu eich cludo'n hwylus rhwng de a gogledd Cymru.

Rhagor o wybodaeth >>

Cwestiwn: Faint o fyfyrwyr sydd yn Aberystwyth?

Atab: Mae gennym dros 7,500 o fyfyrwyr sy'n perthyn i dair cyfadran - y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol a'r gwyddorau.

Rhagor o wybodaeth >>