Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Ysgoloriaeth FAQ's

Cwestiwn: Beth allwch chi ei ddweud wrthyf am Ysgoloriaethau?

Ateb: Mae gennym tua 40 o brif Ysgoloriaethau a mwy na 100 o Wobrau Teilyngdod i'w dyfarnu bob blwyddyn. Mae'r rhain yn cael eu seilio ar eich perfformiad mewn dau bapur arholiad dwy awr, sy'n cael eu gosod mewn 26 a mwy o wahanol bynciau. Fe allwch chi sefyll yr arholiadau yn eich ysgol/coleg, neu yma yn y Brifysgol. Golyga Ysgoloriaethau Mynediad y byddwch yn cael mynediad diamod i'r Brifysgol, ynghyd ag arian ar gyfer pob blwyddyn y byddwch yn astudio yn Aberystwyth. Mae nifer o'r Ysgoloriaethau yn gyfyngedig i ymgeiswyr o Gymru.

Rhagor o wybodaeth >>