Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cymdeithasol FAQ's

Cwestiwn: A oes bywyd cymdeithasol yn Aberystwyth?

Atab: Mae myfyrwyr Aberystwyth yn mwynhau bywyd cymdeithasol bywiog ar y campws ac yn y dref, gan fod tafarndai, clybiau a thai bwyta lleol, Undeb y Myfyrwyr a Chanolfan y Celfyddydau oll yn estyn croeso cynnes i fyfyrwyr. Mae bywyd cymdeithasol y Cymry Cymraeg yn eithriadol gryf yma gydol yr wythnos ac ar benwythnosau. Neuadd Pantycelyn yw canolbwynt y gweithgaredd fel arfer - gallwch ymuno â llu o gymdeithasau neu â Chôr Pantycelyn, neu fwynhau'r gweithgareddau di-ri sy'n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (barbeciw, tripiau rygbi, Trip y Traeth, cyngherddau, gigs bandiau Cymraeg…). Mae'r rhestr yn ddi-ben-draw.

Rhagor o wybodaeth >>

Cwestiwn: Pa fanciau sydd ar gael?

Atab: Mae canghennau'r rhan fwyaf o fanciau'r stryd fawr yn Aberystwyth (Barclays, HSBC, NatWest, Lloyds/TSB a changhennau pob un o'r cymdeithasau adeiladau mwyaf - Alliance & Leicester, Halifax, Nationwide, ac yn y blaen).

Cwestiwn: Beth yw pris peint?

Atab: Ar hyn o bryd y peint rhataf y gallem ddod o hyd iddo (Mawrth 2002) oedd £1 am lager a £1.20 am chwerw. Mae tua 60 o lefydd i fwynhau diod ynddynt yn Aberystwyth, felly gwnawn adael i chi ddod o hyd i'r lle rhataf.