Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Cwestiynau a holir yn aml: Ymweliadau

Cwestiwn: A gaf i ymweld ag Aberystwyth unrhyw bryd heblaw ar Ddyddiau Agored?

Ateb: Cewch. Os hoffech ymweld ar eich pen eich hun neu gyda’ch rhieni/gwarchodwyr, mae Marchnata yn trefnu Teithiau o amgylch Campws Penglais, a medrwch archebu lle ar un o’r rhain yma: http://www.aber.ac.uk/cy/campus-tours/. Cysylltwch â’ch adran academaidd yn uniongyrchol i drefnu ymweliad ar yr un pryd.

Os oes grŵp ohonoch yn dod o’ch ysgol neu goleg, dylech hefyd gysylltu â’r Swyddfa Marchnata a Recriwtio i drefnu ymweliad - efallai y bydd modd inni roi cymorth tuag at eich costau teithio os ydych yn dod fel rhan o grŵp (10 neu fwy).

Ffôn: 01970 62 2065