Gwybodaeth i Israddedigion

Gwybodaeth i Fyfyrwyr Tramor

Caiff myfyrwyr o dros 90 o wledydd groeso cynnes yn Aberystwyth.

Os ydych yn ystyried dod i Aberystwyth o wlad arall efallai y bydd gennych gwestiynau arbennig sy’n wahanol i’r rhai a ofynnir gan fyfyrwyr o wledydd Prydain. Pwrpas yr adran hon yw cynnig rhai atebion, ond mae croeso i chi gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.

Pwy fydd yn rhoi cyngor i mi?

Gwelir ein harbenigwyr mewn arddangosfeydd a ffeiriau addysg trwy’r byd, a gallant gynnig gwybodaeth am astudiaethau yn Aberystwyth. Bydd eich Tiwtor Personol a Chyfarwyddwr Lles y
Brifysgol yn falch o gynorthwyo hefyd os bydd problemau’n codi.

Pa help sydd ar gael wrth ymgartrefu?

Trefnir diwrnod croeso arbennig i fyfyrwyr tramor ar ddechrau’ch tymor cyntaf. Bydd hwn yn gyfle i chi gwrdd â staff a myfyrwyr eraill o dramor. Ceir hefyd gynllun Mentora Myfyrwyr lle byddwch yn cael eich paru â myfyriwr israddedig o’r ail neu’r drydedd flwyddyn am eich ychydig wythnosau cyntaf yn Aberystwyth. Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion o ddydd i ddydd a’ch helpu i ymgartrefu.

Sut ydw i’n gwneud cais am gynllun gradd israddedig?

Dylech wneud cais trwy UCAS (gweler y cyfarwyddiadau ar dudalen 160). Bydd adran Partneriaeth Addysg y DU y Cyngor Prydeinig yn cynnig cyngori chi os ydych yn hanu o un o nifer o wledydd
ledled Ewrop, Asia, Affrica a Gogledd America.

Pa gymhwyster yn y Saesneg sydd ei angen?

Dysgir ein cyrsiau trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf a bydd angen meistrolaeth ar yr iaith honno. Os oes angen cymorth yn y Saesneg bydd y Ganolfan Iaith a Dysgu yn cynnig arweiniad a
help llaw. Mae’r Ganolfan yn cynnig cwrs dwys amser llawn cyn cychwyn y cwrs gradd, ac yn cynnig rhagor o gymorth trwy gydol eich astudiaethau. Cynigir y cyrsiau canlynol: Saesneg
Targed (a chwrs sylfaen dewisol) a’r cwrs cyn prifysgol ar Saesneg at Ddiben Academaidd. Y gofynion sylfaenol o ran iaith Saesneg yw:

  • Gwasanaethau Profi Saesneg Rhyngwladol Caergrawnt / Y Cyngor Prydeinig (IELTS) - Rhaid cael sgôr o 6.5;
  • Prawf JMB Saesneg i Fyfyrwyr Tramor (graddau 1-3);
  • Tystysgrif Caergrawnt o fedrusrwydd yn Saesneg;
  • Prawf AEB yn Saesneg at Ddibenion Addysgol (llwyddiant ym Mand II yn unig);
  • Maes Llafur B121 Lefel ‘O’ Prifysgol Llundain i’r ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn famiaith iddynt (llwyddo â gradd A);
  • TOEFL: Rhaid ennill sgôr o 580 o leiaf;
  • Cwblhau’n llwyddiannus y cwrs cyn prifysgol ar Saesneg at Ddiben Academaidd a gynigir gan y Ganolfan Iaith a Dysgu – gallai hyn gynnwys prawf IELTS;
  • Cyrsiau iaith Saesneg.

Beth yw’r gost?

Y ffioedd i fyfyrwyr israddedig a ddynodwyd yn fyfyrwyr tramor yn 2007-2008 oedd:

  • Celfyddydau £8,100
  • Gwyddorau £10,275
  • Cyrsiau cyfun yn y Celfyddydau a’r Gwyddorau £9,185

Pa adnoddau sydd yma ar gyfer gwahanol grefyddau?

Sicrhaodd y Brifysgol bod adnoddau ar gael i gwrdd ag anghenion arbennig gwahanol grefyddau. Gan fod y gymuned ryngwladol yn fywiog yma yn Aberystwyth, gallwch fod yn siŵr y bydd modd cwrdd â’ch anghenion o ran bwyd neu agweddau ysbrydol yn lleol.

  • Ymgynghorydd Rhyngwladol i roi cymorth a chyngor ichi
  • Cymuned ryngwladol fyrlymus o fyfyrwyr
  • Gwasanaeth iechyd am ddim i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau am fwy na chwe mis
  • Sicrwydd lle yn llety’r Brifysgol am dair blynedd
  • Cyrsiau Saesneg a chymorth dysgu trwy gydol eich amser yn Aberystwyth