Gwybodaeth i Israddedigion
Myfyrwyr hŷn
Os ydych wedi cymryd seibiant o fyd addysg, mae croeso i chi ailymuno â ni ar unrhyw adeg. Byddwn yn croesawu eich cais, gan fod myfyrwyr hŷn yn tueddu i ddod â lefelau uchel o ymroddiad a phrofiad helaeth i’n cymuned. Mae Aberystwyth yn arbennig o boblogaidd gyda myfyrwyr hŷn, am fod y bywyd yma mor braf, ac am sawl ffactor arall hefyd. Mae tua 12% o’n myfyrwyr yn rhai hŷn. Os nad oes gennych brofiad academaidd diweddar, cewch eich asesu ar gyfer eich derbyn ar sail cyfweliad. Bydd y Brifysgol yn cyfrannu at gostau teithio i’r cyfweliad.
Cydnabod profiad
Rydym yn cydnabod y gall amgylchiadau rwystro rhywun rhag cael cymwysterau academaidd (lefel ‘O’ neu TGAU) yn gynnar mewn bywyd. Mae’n bwysig cynnig y cyfle i bobl ddychwelyd i fyd addysg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o’r fath sydd â chyfoeth o brofiad a allai eu helpu i lwyddo mewn prifysgol. Mae’r Swyddog Derbyn yn fodlon iawn cynnig cyngor ac arweiniad ar y paratoadau sydd eu hangen at waith y brifysgol ac ar ddewis cyrsiau addas.
Gwasanaethau arbennig i fyfyrwyr hŷn
Wrth i chi gofrestru yn fyfyriwr hŷn yn Aberystwyth, dynodir Tiwtor Personol ar eich cyfer a fydd yn sicrhau y cewch gyngor ar eich gwaith academaidd. Mae gan Urdd y Myfyrwyr gynrychiolydd myfyrwyr hŷn hefyd er mwyn cynnig cymorth, gwybodaeth a gweithgareddau cymdeithasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Ymgynghorwyr arbenigol i gynnig cyngor ac arweiniad
- Tiwtor Personol i helpu’ch datblygiad academaidd
- Cyrsiau arbennig ar sgiliau astudio i’ch helpu i addasu i waith academaidd
- Cronfa Ariannol wrth gefn i gynnig rhywfaint o gymorth ariannol
- Adnoddau Gofal Plant
- Cynllun mentora Ffordd Hyn i’ch helpu i ymgartrefu