Gwybodaeth i Israddedigion

Ein gwasanaeth i’ch ysgol / coleg

Cyswllt ag Ysgolion a Cholegau

Mae’r Tîm Cyswllt ag Ysgolion a Cholegau yn ymwneud â’r gwaith o gynghori myfyrwyr, athrawon a staff gyrfaoedd, yn ogystal â rhieni, ynglŷn â phob agwedd ar wneud cais ac astudio ar lefel addysg uwch. Mae gennym raglen amrywiol o sgyrsiau a chyflwyniadau gan ein tîm cyswllt ag ysgolion ac aelodau o adrannau academaidd rhwng mis Medi a mis Gorffennaf. Gallwn drefnu ymweliadau ar gyfer grwpiau o ysgolion a cholegau neu rydym bob amser yn barod i ddod i achlysur mewn ysgol neu goleg unigol. Rydym yn ymweld â Ffeiriau Addysg Uwch a Ffeiriau Gyrfaoedd yn rheolaidd ac rydym bob amser yn barod i drafod unrhyw agwedd ar
fyw ac astudio yn Aberystwyth. I gael gwybodaeth am y gwaith cyswllt ag ysgolion a cholegau, cysylltwch â’r Swyddog Marchnata a Denu Myfyrwyr.

Ceir rhestr o’r sgyrsiau a’r gweithdai a gynigir, am ddim, gan Wasanaeth Darlithio Aberystwyth i Ysgolion a Cholegau, yn ogystal â manylion am sut i drefnu, yn: www.aber.ac.uk/cy/schools

Prifysgol Haf Cymru

Mae Prifysgol Aberystwyth, ar y cyd â Phrifysgol Llanbedr Pont Steffan, wedi lansio cynllun newydd sylweddol ar gyfer ehangu mynediad. Mae Prifysgol Haf Cymru yn gynllun ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau (blwyddyn 12 fel arfer). Y bwriad yw targedu pobl ifanc sy’n tangyflawni yn academaidd a rhoi cyfle iddynt dreulio gwyliau’r haf naill ai yn Aberystwyth neu Llanbed.

Ysgolion a Cholegau yng Nghanolbarth Cymru

Mae ein Canolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau yn y Canolbarth er mwyn hybu gweithgaredd sy’n cyfoethogi’r cwricwlwm, er enghraifft ‘Gwyddoniaeth Ychwanegol’ a ‘Celf Ychwanegol’. Hefyd gallwn gymryd hyd at 10 disgybl o bob ysgol yn y rhanbarth nad ydynt yn debygol o gyrraedd gradd C yn eu pynciau craidd TGAU ar gwrs preswyl dwys dros y Pasg yma yn Aberystwyth. Dylai unrhyw ysgol yn y cyffiniau a hoffai gydweithio â ni mewn gweithgaredd tebyg i’r hyn a ddisgrifiwyd uchod gysylltu â’r Ganolfan ar 01970 621890.