Gwybodaeth i Israddedigion
Anableddau
Myfyrwyr sydd ag anabledd
Mae Aberystwyth yn falch o ystyried ceisiadau am fynediad gan fyfyrwyr anabl. Er eich lles eich hun byddai’n ddoeth ymgynghori â’r Brifysgol cyn cyflwyno cais ffurfiol trwy UCAS. Cysylltwch â’r Swyddog Anabledd (01970) 628537 neu e-bost rha@aber.ac.uk, gan roi manylion am y cwrs neu’r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi, natur ac ystod eich anabledd, ac unrhyw offer, gwasanaethau dysgu neu breswyl a allai fod yn angenrheidiol. Awgrymwn eich bod yn ymweld ag Aberystwyth, ac mae ymweliad yn hanfodol os oes gennych anawsterau symud. Oherwydd cynllun ein hadeiladau a natur y tir (mae’r campws ar lethr 11%), nid yw’r amgylchiadau yn gydnaws i unigolion sydd ag anawsterau symud. Yn dilyn eich ymweliad a thrafodaeth gyda’r aelodau perthnasol o’r staff, byddwch chi a’r Brifysgol yn medru barnu a fyddai’n ddoeth i chi wneud cais. Os ydych yn fyfyriwr o wledydd Prydain, cysylltwch â’ch AALl am eich hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl yn ogystal ag unrhyw grant arall a gewch.
Gellir paratoi Cynllun Gwerthuso Personol i fyfyrwyr sydd ag anableddau sy’n effeithio ar eu gallu i symud neu eu hymwybyddiaeth synhwyraidd. Cysylltwch â’r swyddog Anabledd os byddech angen un.
Mae modd paratoi Cynllun Cloriannu Personol ar gyfer myfyrwyr sydd ag anabledd symud. Os hoffech drefnu un, yna cysylltwch â’r Swyddog Anabledd.
Mae’r Brifysgol yn darparu cymorth arbenigol i fyfyrwyr sydd â dyslecsia neu fath arall o anhawster dysgu yn y Ganolfan Iaith a Dysgu, lle mae staff cymwys wrth law i roi cyngor ac arweiniad. Ar rwydwaith cyfrifiaduron y Brifysgol mae gennym feddalwedd arbenigol i hwyluso’i ddefnydd i fyfyrwyr sydd â thrafferthion dysgu penodol. Neilltuwyd rhai mannau (llecynnau ‘Cerdyn Gwyrdd’) yn llyfrgelloedd y Brifysgol ar gyfer offer sydd o gymorth i fyfyrwyr sydd â phroblemau gweld neu glywed.
Gellir cael copi o’r Datganiad ar Anabledd gan y Swyddog Anabledd (01970) 628537.