Mynediad ac Ymweld
Dyddiau Ymweld
Mae croeso cynnes i chi ymweld â ni
Ar ôl Gwneud Cais
Os byddwch yn gwneud cais ac yn cael cynnig o le gennym, byddwn yn eich gwahodd i ymweld â’r Brifysgol fel y gallwch gael rhagor o wybodaeth ddefnyddiol, cwrdd â staff a myfyrwyr, trafod unrhyw bryderon ac, yr un mor bwysig, cael teimlo ‘naws’ y lle. Trefnir y dyddiau ymweld i gwrdd â’ch anghenion penodol chi fel ymgeisydd ac fe fyddant yn cynnwys:
- Taith i weld yr adran academaidd
- Sgwrs am fframwaith cyrsiau
- Sgwrs am adnoddau adrannol
- Cyfweliad personol neu mewn grwpiau*
- Cyfle i gwrdd â rhai o fyfyrwyr presennol yr adran
- Sgwrs am y llety
- Cyfle i weld llety’r Brifysgol
- Taith i weld y campws
* Gallai rhai adrannau academaidd fod yn barod i ostwng eu cynnig ichi ar sail cyfweliad llwyddiannus ar y diwrnod ymweld.
Os gwnewch gais i ddod yma, byddwn yn anfon manylion pellach am y dyddiau ymweld atoch gyda’r cynnig. Bydd croeso i deulu a chyfeillion ddod gyda chi hefyd ac fe wnawn ein gorau i wneud yr ymweliad yn un cofiadwy a buddiol. Gallwn ad-dalu eich costau teithio personol chi am deithiau a wneir ar dir mawr Prydain (100% o gost taith trên/bws neu 20c y filltir mewn car). Noder: telir costau ar gyfer Dyddiau Ymweld yn unig, nid y Dyddiau Agored.