Gwybodaeth i Israddedigion
Astudiaethau Trwy’r Gymraeg
Mae manteision addysgol a galwedigaethol mewn meithrin y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfrwng astudio a chyfathrebu, a gwelwyd galw cynyddol ers llawer
blwyddyn mewn hysbysebion am swyddi lle mae gwybodaeth drwyadl o’r Gymraeg yn orfodol, yn fanteisiol neu’n ddymunol. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg
1993 a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, a phobl i weinyddu ac i
gyfieithu mewn llywodraeth leol ac addysg uwch, heb sôn am y galw parhaus am athrawon sy’n medru dysgu drwy’r Gymraeg, am bobl ifainc i weithio yn y cyfryngau
neu am raddedigion â sgiliau dwyieithog i weithio mewn llawer o swyddi ym myd masnach, gwasanaethau cyhoeddus a phroffesiynau eraill yng Nghymru. Ein profiad
yn Aberystwyth yw bod yr addysg a gynigir gennym drwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol iawn i raddedigion wrth iddynt ddewis a dilyn eu gyrfa.
Mae’r hyn y gellir ei astudio drwy’r Gymraeg yma yn amrywio o bwnc i bwnc. Nid yw pob elfen o’r cynlluniau gradd a restrir yma ar gael drwy’r Gymraeg o
angenrheidrwydd a dylid cadarnhau union natur a chyfrwng y ddarpariaeth wrth drafod gyda chynrychiolwyr yr adrannau unigol. Mewn rhai adrannau gellir dilyn cyrsiau cyflawn drwy’r Gymraeg; mewn pynciau eraill darpariaeth rannol a gynigir, yn seiliedig ar feysydd arbenigol y darlithwyr sy’n dysgu drwy’r iaith. Mae ambell adran arall yn canolbwyntio’n benodol ar fodiwlau Lefel 1 drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig.
Mewn rhai adrannau fe fydd yn bosibl cael dosbarthiadau seminar a thiwtorial ar gyfer modiwlau a ddysgir yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Ac fe fydd hawl gan unrhyw un o’n myfyrwyr i gyflwyno gwaith cwrs a sefyll arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os dilynir cyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg. Trwy hyn, fe fyddwch yn medru datblygu eich sgiliau yn y ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg – fel y gellwch chwarae rhan lawn yn y gymdeithas ddwyieithog sydd ohoni.
Mae Aberystwyth yn gartref i Ganolfan Edward Llwyd a sefydlwyd i hyrwyddo a datblygu cyrsiau gwyddonol drwy’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru.
Prin fod angen sôn am gyfoeth y gymdeithas Gymraeg sy’n bodoli ymhlith y myfyrwyr yma yn Aber. Profodd cenedlaethau o fyfyrwyr asbri a bwrlwm y bywyd Cymraeg yma, ac os hoffech chi gael gwybod mwy, mae’r llyfryn ‘Astudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg’ yn cynnig cyflwyniad helaethach i’r holl bynciau a gynigir drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau cefnogol a nifer o ystyriaethau eraill a fydd yn berthnasol i chi fel myfyriwr.
Gwybodaeth ychwanegol
Gellir cael gwybod pa fodiwlau ar gyfer y cynlluniau gradd uchod sydd ar gael yn Gymraeg drwy ymweld â’r wefan neu drwy holi’r adrannau perthnasol. I weld y rhestr ddiweddaraf o gyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed ers argraffu’r prosbectws hwn a Llawlyfr UCAS, gweler gwefan UCAS.