DU, tu allan i Gymru

Gwiriwch y wybodaeth ar gyfer y wlad rydych chi fel arfer yn byw ynddi i gael gwybodaeth am gyllid.

Lloegr

Mae cyllid ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr i ddechrau cwrs ym mis Medi 2022

Os ydych yn byw yn Lloegr gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr i gael cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23. Mae'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr yn cynnwys arian ar gyfer ffioedd dysgu ac arian i dalu costau byw.

Benthyciad ffioedd dysgu

Yn amodol ar delerau ac amodau, ni fydd rhaid i fyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ac yn astudio tuag at eu gradd gyntaf dalu eu ffioedd dysgu ymlaen llaw. Yn lle hynny, gallent fod yn gymwys am fenthyciad ffioedd dysgu ad-daladwy gwerth hyd at £9,000 y flwyddyn i dalu costau eu ffioedd dysgu (yn wahanol i weddill y DU, lle gellir codi hyd at £9,250 mewn ffioedd dysgu, £9,000 yw uchafswm y ffioedd yng Nghymru). Byddai'r arian hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch Prifysgol ar ôl i chi gofrestru.

Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau ac yn ennill cyflog sydd uwch na £27,295* y flwyddyn (yn dibynnu ar delerau ac amodau).

*Trothwy blwyddyn ariannol 21/22. Adolygir y ffigwr hwn yn flynyddol

Cyllid ar gyfer costau byw

Gall pob myfyriwr cymwys sy'n gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr gael benthyciad cynhaliaeth i'w helpu i dalu ei gostau byw. Disgwylir i'r benthyciad hwn gyfrannu at gostau llety, bwyd, teithio a byw yn gyffredinol. Bydd y swm sydd ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a ble rydych yn byw yn ystod eich astudiaethau.

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o'r arian sydd ar gael yn ddibynnol incwm y cartref a ble mae'r myfyriwr yn byw yn ystod ei astudiaethau:

Cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr israddedig amser llawn sy’n byw oddi cartref yn 2022/23

Incwm yr aelwyd

Benthyciad ar Gael – 2022/23 (Ffigurau yn dibynnu ar gymeradwyaeth seneddol)

£25,000 a llai

£9,706

£35,000

£8,318

£45,000

£6,929

£55,000

£5,540

£62,311 a throsodd

£4,524

Fel y gwelir uchod, bydd faint o arian cynhaliaeth sydd ar gael yn cael ei effeithio gan fanylion incwm yr aelwyd.

Os byddwch yn byw yng nghartref eich rhieni yn ystod eich astudiaethau, £8,171 yw cyfanswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael, ond mae manylion incwm y cartref yn gallu effeithio ar hynny o hyd.

Sylwer os bydd incwm y cartref yn uwch, mae’r Llywodraeth yn disgwyl i rieni gyfrannu tuag at gostau byw’r myfyriwr.

Bydd y benthyciad cynhaliaeth hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer mewn tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei ryddhau i chi ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i chi orffen ymrestru. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych ar gyfer o leiaf pythefnos pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol.

Os byddwch yn newid unrhyw fanylion am eich cwrs neu fan astudio ar ôl i chi wneud cais am arian, dylech roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Lloegr cyn gynted ag y byddwch yn gwybod am newid neu gallai hyn achosi oedi cyn talu'r arian.

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallai arian ychwanegol fod ar gael i chi. Er enghraifft, os oes gennych anabledd, neu os oes gennych blant neu oedolyn sy'n ddibynnol arnoch. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Lloegr i gael rhagor o wybodaeth.

Ad-dalu benthyciadau

Mae’r cyhoeddiad polisi cyllido Addysg Uwch diweddar Llywodraeth y DU, sydd am newid telerau ad dalu benthyciad myfyrwyr, yn effeithio myfyrwyr sydd yn cychwyn astudio o’r flwyddyn 2023/24 ymlaen. Cyn gynted ag y caiff y newidiadau eu cadarnhau, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon. Cofiwch fynd i wefan eich corff cyllido yn rheolaidd i gael y wybodaeth diweddaraf.

Os byddwch yn cael benthyciad ffioedd dysgu a benthyciad cynhaliaeth, bydd y rhain yn cael eu cyfuno i fod yn un swm y byddwch yn ei ad-dalu ar ôl gadael eich cwrs.  Byddwch yn atebol i ad-dalu unrhyw fenthyciadau rydych chi wedi eu cymryd yn y mis Ebrill cyntaf ar ôl i chi adael eich cwrs. 

Ni fyddwch yn dechrau gwneud ad-daliadau nes bydd eich incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £25,000 y flwyddyn hyd at Ebrill 2027.  O fis Ebrill 2027 ymlaen mae'r trothwy wedi'i osod i godi'n flynyddol gyda chwyddiant (RPI).  Os byddwch yn astudio cwrs amser llawn, bydd disgwyl i chi ddechrau ad-dalu o’r mis Ebrill ar ôl cwblhau eich cwrs neu adael/tynnu’n ôl o Addysg Uwch.  Byddai myfyriwr graddedig yn 2026 sy’n dechrau swydd gyda chyflog o £28,000 y flwyddyn, yn disgwyl ad-dalu tua £17 y mis dros flwyddyn ariannol 2027/28.  Os bydd eich incwm yn disgyn o dan y trothwy ad-dalu, bydd ad-daliadau yn dod i ben a bydd unrhyw falans sy’n weddill yn cael ei ddileu 40 mlynedd ar ôl dechrau’r ad-daliad. Gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol ychwanegol i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar unrhyw adeg.

Bydd pob myfyriwr yn atebol ar gyfer y benthyciad am 40 mlynedd ar ôl y mis Ebrill ar ôl gorffen ei gwrs. Os oes balans sy'n weddill ar ôl 40 mlynedd, bydd hyn yn cael ei ddileu.

Llog ar eich benthyciadau

Codir llog ar unrhyw fenthyciad a gewch, yn dechrau ar yr adeg pan fyddwch yn ei dderbyn (benthyciad cynhaliaeth) neu pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar eich rhan (benthyciad ffioedd myfyrwyr) nes y byddwch wedi talu eich benthyciad yn llawn, neu caiff unrhyw falans ei ddileu.

Ar hyn o bryd, y gyfradd log yw RPI (Retail Price Index) - Mynegai Prisiau Manwerthu + hyd at 3%. Mae'r swm a godir arnoch chi hefyd yn dibynnu ar p'un a ydych yn astudio neu'n gweithio ac os ydych yn gweithio, faint rydych yn ei ennill.

Gallwch gael rhagor o fanylion ynghylch sut y codir llog ar eich benthyciad myfyrwyr ar wefan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Cost ad-daliadau

Ar hyn o bryd, mae ad-daliadau ar fenthyciadau israddedig wedi’u pennu ar gyfradd o 9% o’ch incwm sydd dros £27,295 y flwyddyn.Fel arfer, caiff ad-daliadau eu cymryd o’ch cyflog drwy’r system dreth. Gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol

Edrychwch ar y tabl isod i gael syniad o faint fyddai’r ad-daliadau misol.

Eich incwm blynyddol (cyn treth)

Amcan o'r ad-daliad misol

£25,000

£0 - cyflog yn is na'r trothwy

£29,000

£12.79

£32,000

£35.29

£35,000

£57.79

£45,000

£132.79

Sut i wneud cais am gyllid

Bydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Lloegr yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr am eu cyllid. Mae disgwyl i’r broses o wneud cais i fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs agor mis Mawrth  2022.

Yr Alban

Os ydych yn byw yn yr Alban byddwch yn gallu gwneud cais am arian i Asiantaeth Cyllid Myfyrwyr yr Alban. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr arian fydd ar gael ar gyfer Medi 2022 a sut i wneud cais.

Gogledd Iwerddon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon byddwch yn gallu gwneud cais am arian i Gyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr arian fydd ar gael ar gyfer Medi 2022 a sut i wneud cais.