Ffioedd Dysgu

Mae ffioedd dysgu’n talu am gostau eich astudiaethau yn y brifysgol; mae’r ffioedd yn cynnwys taliadau am bethau fel y dysgu, eich arholiadau a graddio.

Mae benthyciadau a grantiau ar gael i’ch helpu i dalu eich ffioedd dysgu a’ch costau byw. Os hoffech gael gwybod mwy am y benthyciadau a’r grantiau y gallai fod gennych hawl iddynt, ewch i’n hadran Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2024

Gwybodaeth Ffioedd y fyfyrwyr y DU

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bod yn bwriadu caniatáu i brifysgolion wneud cais i gynyddu’r ffi uchaf y gellir ei chodi ar fyfyrwyr israddedig llawn amser o’r DU ac Iwerddon o £9,000 i £9,250 yn 2024/2025.

Wrth aros am gymeradwyaeth derfynol ym mis Ebrill, bydd Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu’r newid hwn i ffioedd myfyrwyr cymwys ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Rydym wedi llunio tudalen Cwestiynau Cyffredin y gallwch ddod o hyd iddi yma.

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys UE)

Noder y bydd gwladolion Gwyddelig yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Mae pob myfyriwr rhyngwladol yn gymwys i wneud cais am Wobr Llety Myfyrwyr Rhyngwladol. Mae hyn yn golygu bod cost eich llety a reolir gan brifysgol wedi'i gynnwys yn eich ffioedd dysgu. Gan ddibynnu ar ba lety yr ydych yn ei ddewis, bydd hyn naill ai’n gwbl rad ac am ddim neu â gostyngiad o £2,000. 

Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, caiff lefelau ffioedd eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod yn union beth fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.

 

Myfywyr Rhyngwladol  
Math £
Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser 16,520
Gwyddoniaeth Llawn Amser 18,830
Blwyddyn mewn Diwydiant To be confirmed
Blwyddyn Dramor To be confirmed

Gwybodaeth ffioedd cyrsiau dysgu o bell

Cyrsiau Israddedig £

Ffi Gofrestru (untro, na ellir ei ad-dalu)

360

Ffi fesul modiwl 10 credyd (yr un)

380

Blwyddyn 1

3,040

Blwyddyn 2

3,040

Blwyddyn 3

3,040

Cyfanswm (gan gynnwys y Ffi Gofrestru)

9,480