Rydym bellach wedi cau ar gyfer 2012

O ganlyniad i dwf mewn ceisiadau gan ymgeiswyr o safon uchel, mae ein cyrsiau i gyd bellach ar gau i ymgeiswyr o’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig. Noder, oherwydd trefniadau cyllido gwahanol, rydym yn fodlon parhau i ystyried ceisiadau o wledydd tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd

Meddai’r Dirprwy Is Ganghellor, yr Athro Martin Jones, “Mae eleni eto, fel y blynyddoedd blaenorol, wedi bod yn flwyddyn wych o ran ceisiadau i Aberystwyth. Mae’n arbennig o braf i weld y twf sylweddol mewn ceisiadau o fewn pynciau sy’n cael eu nodi gan Lywodraeth Cymru fel y meysydd blaenoriaeth, sef Mathemateg, Ffiseg a’r Ieithoedd Ewropeaidd.

“Yr ydym yn edrych ymlaen at groesawu ein ymgeiswyr llwyddiannus i un o’n diwrnodau agored adrannol yn 2012, er mwyn iddynt gael gweld yr adnoddau gwych sydd gyda ni ar eu cyfer nhw ym Mhrifysgol Aberystwyth.” Am fwy o wybodaeth am ein diwrnodau ymweld ewch i dudalen Diwrnodau Ymweld.

Oherwydd gwahaniaethau yn y systemau cyllido, mi fyddwn yn hapus ystyried  ceisiadau o wledydd y tu allan i’r Gymuned Ewropeaidd.