Gwybodaeth i Israddedigion

Pa gymwysterau mae Aberystwyth yn eu derbyn?

Cynhwysol a Hyblyg

Mae gofynion mynediad Aberystwyth yn gynhwysol a hyblyg. Yn ein cynnig i chi byddwn yn ceisio cydnabod, lle bo’n bosibl, y cymwysterau yr ydych wedi ac wrthi yn eu hastudio.

Bydd ein cynnig yn adlewyrchu eich amgylchiadau penodol a gofynion eich dewis gwrs/gyrsiau.

Mae nifer o adrannau hefyd yn gostwng eu cynigion ar ôl cyfweliad llwyddiannus ar Ddiwrnod Ymweld.

Gohirio Mynediad

Fel arfer caniateir gohirio mynediad am flwyddyn. Os ydych yn gwneud cais am fynediad yn 2008 ac yna’n penderfynu gohirio mynd i’r Brifysgol tan 2009, cysylltwch â’r Swyddog Derbyn am gyngor.