Gwybodaeth i Israddedigion

Pa gymwysterau mae Aberystwyth yn eu derbyn?

Lleiafswm Gofynion

Bydd Aberystwyth yn disgwyl lefel gyffredinol o hyfedredd mewn cymwysterau lefel 3 gan ymgeiswyr sydd o dan 21 oed ym mis Medi ym mlwyddyn eu mynediad i’r Brifysgol. Byddwn yn derbyn dau gymhwyster Safon Uwch neu’r hyn sy’n gyfwerth i gwrdd â lleiafswm gofynion cyffredinol, gan gynnwys gofynion penodol y cwrs perthnasol, er mwyn gwneud gradd Anrhydedd. Mewn rhai achosion bydd pedwar cymhwyster Safon Uwch Atodol ac un Safon Uwch (neu ei gyfwerth) yn dderbyniol
ar gyfer gradd Anrhydedd, yn amodol ar gyfweliad neu dystiolaeth ychwanegol o symbyliad a photensial.

Cymwysterau Safon Uwch Atodol

Mae Aberystwyth yn croesawu’r posibilrwydd y bydd mwy o fyfyrwyr yn astudio pynciau Safon Uwch Atodol, a’r ehangder a ddaw yn sgil hynny. Rydym yn derbyn y Safon Uwch Atodol fel cymhwyster teilwng. Os yw ymgeisydd Safon Uwch wedi cael canlyniadau da yn y Safon Uwch Atodol bydd mantais ganddo wrth gystadlu, ond os yw ymgeisydd wedi cael Safon Uwch Atodol anfoddhaol neu heb gael Safon Uwch Atodol o gwbl, bydd yn dal i gael ystyriaeth lawn a difrifol wrth lunio cynigion. Gellir anwybyddu canlyniadau gwael mewn Safon Uwch Atodol os oes arwydd fel arall o wella perfformiad.

Croesewir pynciau cymwysterau Uwch Atodol boed mewn pynciau ‘cyferbyniol’ i’r cynllun gradd neu HND arfaethedig, neu mewn pynciau sy’n cyd-fynd â’r cynllun.

Sgiliau Allweddol

Bydd Cymhwyso Rhifau ar lefel 3 yn dderbyniol gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol a Sefydliad y Gwyddorau Gwledig yn lle TGAU mewn Mathemateg.
Mae gradd TGAU rhwng A* ac C yn y Gymraeg neu’r Saesneg yn dal yn angenrheidiol am fynediad i’r Brifysgol, ond mewn rhai achosion bydd Sgiliau Allweddol Cyfathrebu ar lefel 3 yn dderbyniol yn lle TGAU yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Os cynigir Sgiliau Allweddol ar lefel 3 bydd wedi ei gynnwys fel arfer yn y cynnig i ymgeiswyr a rhoddir pwysau priodol iddo yn unol â Fframwaith Cenedlaethol UCAS. Cysyllter â Phennaeth y Swyddfa Dderbyn am gyngor (01970 622019) neu anfonwch ebost at Dr Hywel M Davies.

Bagloriaeth Cymru

Mae Aberystwyth yn croesawu Bagloriaeth newydd Cymru fel cymhwyster gwerthfawr ynddo’i hun. Mae’n llwyr gefnogi cynnwys y Craidd WBQ yn rhan o bwyntiau UCAS (120 pwynt). I gydnabod dyfnder ac ehangder ychwanegol y sgiliau a gynigir gan y cymhwyster yn ei grynswth byddem yn ystyried gostwng amodau cynnig i ymgeiswyr sydd â’r cymhwyster cyhyd ag y bônt yn bodloni amodau unrhyw gwrs. Bydd y craidd yn gymhwyster digonol i gael mynediad i gyrsiau DGU/HND neu radd Sylfaen fel arfer.