Gwybodaeth i Israddedigion
Pa gymwysterau mae Aberystwyth yn eu derbyn?
- Cynhwysol a Hyblyg
- Requirements and Qualifications
- Pwyntiau Tariff UCAS
- Cytundebau Compact
- Cymwysterau Galwedigaethol
- Ennill Credyd
Pwyntiau Tariff UCAS
Mae nifer o’n cynigion yn cynnwys yr amod i gael sgôr pwyntiau yn unol â thariff UCAS. Trwy hyn gallwn gydnabod y cymwysterau sydd gennych eisoes yn ogystal â’r rhai yr ydych yn paratoi ar eu cyfer ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys lefel A, AS, Astudiaethau Cyffredinol ac unedau Sgiliau Allweddol (lefel 3). Bydd rhai cyrsiau yn gofyn am radd benodol ar lefel TGA neu lefel A, ac eraill yn gofyn am nifer penodol o bwyntiau TGA neu TAA, lefel A, neu arholiadau uwch atodol neu uwch yr Alban. Gweler y gofynion mynediad ar dudalen 170. Os oes gennych gymwysterau nad ydynt wedi eu nodi yn nhariff UCAS, e.e. Bagloriaeth Ewrop, gwneir cynnig mewn termau sy’n addas i’r cymwysterau hynny: www.ucas.com/canq/tariff