Gwybodaeth i Israddedigion
Pa gymwysterau mae Aberystwyth yn eu derbyn?
- Cynhwysol a Hyblyg
- Requirements and Qualifications
- Pwyntiau Tariff UCAS
- Cytundebau Compact
- Cymwysterau Galwedigaethol
- Ennill Credyd
Cymwysterau Galwedigaethol
Mae cymwysterau galwedigaethol yn baratoad da i gynlluniau gradd cysylltiedig a rhai sydd heb fod yn gysylltiedig â hwy. Mae cyfran gynyddol o’n myfyrwyr newydd wedi ennill tystysgrifau neu ddiplomâu BTEC Cenedlaethol neu BTEC Cenedlaethol Uwch. Mae lefel A Alwedigaethol (TAAU) yn cael ei hystyried yn gyfartal â Safon
Uwch neu Safon Uwch Atodol. Yr ydym yn croesawu’n arbennig ymgeiswyr â TAAU Dyfarniad Dwbl (12 uned). Bydd cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig eraill yn cael ystyriaeth ddifrifol hefyd, e.e. eiddo Sefydliad Siartredig y Bancwyr a Sefydliad y Swyddogion Cyfreithiol. Am gyngor penodol ar dderbyn cymwysterau proffesiynol a/neu brofiad proffesiynol, cysyllter â’r Swyddfa Dderbyn gan roi manylion llawn am lefel y cymhwyster a gafwyd, profiad perthnasol a’r cynllun gradd arfaethedig.