Gwybodaeth i Israddedigion

Pa gymwysterau mae Aberystwyth yn eu derbyn?

Ennill Credyd

Mewn rhai achosion gallwn roi credyd am gyfnodau astudio mewn mannau eraill. Os oes gennych gredyd perthnasol o’r Brifysgol Agored, neu gymwysterau Diploma Genedlaethol Uwch BTEC (gydag o leiaf dri theilyngdod yn unedau’r flwyddyn olaf ), neu gymwysterau proffesiynol addas, cewch eich ystyried am fynediad yn syth
i’r ail flwyddyn mewn cynlluniau gradd addas. Yn yr un modd rydym yn barod i ystyried myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r flwyddyn gyntaf mewn sefydliad Addysg Uwch arall, ac sy’n dymuno, am resymau personol neu academaidd, parhau â’u hastudiaethau yn Aberystwyth. Er mwyn gwybod rhagor am ennill credydau yn Aberystwyth, cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyn.

DGU/HND - trosglwyddo i gyrsiau gradd Sefydliad y Gwyddorau Gwledig

Os yw’ch cynnydd academaidd ar gwrs HND yn foddhaol, mae hi’n bosibl trosglwyddo i wneud un o’r cynlluniau gradd a gynigir gan Sefydliad y Gwyddorau Gwledig. Mae’r drefn hon yn golygu nad oes rhaid i chi astudio am flwyddyn ychwanegol er mwyn trosglwyddo. Os cewch HND perthnasol ac o leiaf deilyngdod mewn 75% o’r modiwlau (ac eithrio modiwlau sgiliau cyffredin), cewch ymuno â blwyddyn olaf cynllun gradd addas mewn astudiaethau yn ymwneud â’r tir. Mae hyn hefyd yn wir i fyfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch eraill a hoffai drosglwyddo i Aberystwyth. Gellir cael mwy o fanylion o’r Swyddfa Dderbyn.

Newidiadau i’r cwricwlwm 14-19 yn Lloegr

Mae Aberystwyth yn ymwybodol o’r newidiadau sy’n digwydd yn Lloegr o ran diwygio Safon Uwch a TGAU, Sgiliau Ymarferol a chyflwyno’r Prosiect Estynedig yn ogystal â’r Diplomâu. Yr ydym yn cefnogi’r newidiadau hyn mewn egwyddor a byddwn yn croesawu ymgeiswyr sy’n cynnig y cymwysterau newydd hyn ar gyfer
mynediad yn 2009. Byddwn yn cyhoeddi union fanylion ein lefelau mynediad cyn gynted ag y bydd y wybodaeth berthnasol ar gael. Os ydych angen unrhyw gyngor yn y cyfamser cysylltwch â’r Cyfarwyddwr Derbyn Myfyrwyr.