Ymweld ag Aberystwyth
Daw myfyrwyr o bell ac agos i Brifysgol Aberystwyth - gallwch gwrdd â myfyrwyr o bob rhan o’r byd yma. Bydd y croeso cynnes sy'n eich disgwyl a'r adnoddau rhagorol sydd gennym ar eich cyfer yn gwneud eich ymweliad yn un gwerth chweil.
Aros Dros Nos
Os hoffech aros dros nos mae digon o leoedd ar gael yn Aberystwyth. Cewch restr o gyfeiriadau gan y Swyddfa Gwybodaeth i Ymwelwyr (ffôn: 01970 612125) neu’r Swyddfa Denu a Derbyn Myfyrwyr (ffôn: 01970 622021).
Os byddwch yn ymweld yn ystod gwyliau’r Brifysgol gall fod llety myfyrwyr ar gael ar eich cyfer (yn ystod Ebrill, Mehefin, Gorffennaf ac Awst). Cysylltwch â’r wyddfa Gynadleddau ar 01970 621960, neu ebostiwch conferences@aber.ac.uk
Atyniadau Lleol – yn Aberystwyth a’r cyffiniau
Pethau i’w gwneud, ac i fynd i’w gweld. Porwch drwy’r canlynol: