Dyddiau Cynnar
| 1867 | Gwesty anorffenedig y Castell yn cael ei brynu gan bwyllgor Prifysgol Cymru gan y contractwr rheilffyrdd, Thomas Savin am £10,000, ffracsiwn o'r cyfanswm a gostiodd i'w adeiladu. |
| 1871 | Ar ôl trafferthion yn casglu arian ar gyfer y Brifysgol, mae cyfarfod arbennig o'r pwyllgor yn ymgynnull ac yn penderfynu aildrefnu'r Gronfa Gwarant a sefydlu pum pwyllgor rhanbarthol (Llundain, Manceinion, Lerpwl, De a Gogledd Cymru), pob un i fod yn gyfrifol am godi cwota blynyddol o £400 ar gyfer costau cynnal, dros gyfnod o dair blynedd. Yn fuan wedyn cytunwyd y byddai'r Coleg yn agor erbyn 1 Hydref 1972 fan bellaf. |
| 1872 | Am 9.00 am ar 16 Hydref 1872, gyda chymorth dau athro a Chofrestrydd-Lyfrgellydd, Thomas Charles Edwards yn croesawu chwech ar hugain o fyfyrwyr i'r gwesty a addaswyd i fod yn 'Brifysgol y werin'. “Mae tref Aberystwyth yn dathlu gyda gwyl gyffredinol - cafwyd llawer o areithiau huawdl, llawer o gerddoriaeth a chanu llawen; roedd yno londer a gorfoledd godidog”. |
| 1872 | Aberystwyth yw'r sefydliad Prifysgol cyntaf yng Nghymru i gynnig cyrsiau mewn: Cemeg, Ieitheg Gymharol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg, Daearyddiaeth, Almaeneg, Groeg, Hebraeg (hefyd Arabeg, Syrieg, Sanskrit, Tyrceg a Pherseg), Hanes, Eidaleg, Lladin, Rhesymeg ac Athroniaeth, Mathemateg, Gwyddorau Cenedlaethol a Seryddiaeth. |
| 1872 | Y Gymdeithas Lenyddol a Thrafod yn dechrau ac yn ffynnu dan Lywyddiaeth W. R. Evans. |
| 1874 | Y myfyrwyr cyntaf yn dod i fyw i'r Coleg. |
| 1875 | |
| 1875 | |
| 1875 | Capeli ledled Cymru yn datgan y byddai casgliad yn cael ei wneud ar gyfer y Brifysgol ar Sul olaf mis Hydref, Sul y Brifysgol. Cyfrannodd dros 70,000 o bobl, symiau bach gan fwyaf, sef y cyfan y gallent ei fforddio - casglwyd £3,100. Yr haelioni hwn yn cadarnhau fod lle arbennig i Aberystwyth yng nghalonnau a meddyliau'r Cymry. |
| 1878 | Cyfrol gyntaf Cylchgrawn y Coleg (a alwyd yn ddiweddarach yn Y Ddraig), wedi'i addurno ag arwyddair y Coleg, 'Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth’. |
| 1870au | Yr Athro Henry Tanner o'r Coleg Amaethyddol Brenhinol a Harry Parnall, Is Lywydd y Brifysgol, yn ceisio sefydlu amaethyddiaeth fel pwnc ar y cwricwlwm. Ariannodd Parnall a thraddododd Tanner gyfres o ddarlithoedd ar y thema ‘Egwyddorion Amaethyddiaeth' ac fe'u cyhoeddwyd yn Gymraeg a Saesneg. Daeth diwedd ar y mentrau hyn oherwydd y trafferthion economaidd yn sgil y 'Dirwasgiad Mawr'. |
| 1884 | Y fyfyrwraig gyntaf yn cofrestru, sef L. Patrick (Davies gynt). Nifer y myfyrwyr yn fwy na 100. |
| 1885 | Y neuadd breswyl gyntaf i fenywod, Abergeldie. |
| 1885 | Ar 9 Gorffennaf, dinistriwyd adeilad eiconig y Brifysgol, a adwaenwyd gan genedlaethau diweddarach fel 'Yr Hen Goleg' gan dân. Ni chanfuwyd yr achos erioed. |
| 1885 | Ysgoloriaethau'r Coleg ar gael i bawb, waeth beth yw eu credo neu hil. Dywedodd y Prifathro, Thomas Charles Edwards fod ‘colegau mawr yn dod i fod yr hyn ydynt drwy agor eu gatiau i bawb’. |
| 1885 | Stuart Rendel yn prynu ystad Gogerddan ar Benglais ac yn rhoi'r tir i'r Coleg. |
| 1887 | College Critic, a fwriadwyd fel fersiwn llai parchus o Gylchgrawn y Coleg, yn ymddangos mewn llawysgrifen. Cafodd ei ffrwyno'n fuan iawn. |
| 1889 | Sefydlu Cymdeithas y Geltaidd. |
| 1889-1890 | W. T. Jones o Melbourne, Awstralia yn cyfrannu er mwyn adeiladu nenfwd addurniadol yng nghoridor y Coleg, gan greu y 'Cwad'. “Yma, yn ddyddiol, rhwng darlithoedd gwelir crocodeiliaid cymhleth o ddynion a gwragedd yn cylchdroi ar wahân, ac roedd rhaid dysgu pob math o driciau a strategaethau er mwyn gallu goresgyn y gwahanu swyddogol rhwng y rhywiau!" |
| 1890 | Y Prifathro Thomas Charles Edwards yn teithio o amgylch America ac yn codi £1,050 gan Americaniaid o dras Cymreig i gyfarparu Llyfrgell newydd y Coleg. Ysgrifennodd am y daith yn Adroddiad y Coleg y flwyddyn honno. |
| 1891 | Sefydlu yr Adran Amaethyddiaeth.. |
| 1892 | Sefydlu yr Adran Addysg. |
| 1892 | Thomas Ellis AS yn sefydlu Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Nod y Gymdeithas yw galluogi i gyn-fyfyrwyr adnewyddu cyfeillgarwch dyddiau Coleg, codi arian ar ran y Coleg a datblygu buddiannau addysgol y Coleg a Chymru. |
| 1892 | Y Llyfrgell newydd yn adeilad yr Hen Goleg yn cael ei chwblhau. Cafodd ei chyllido gan roddion gan Americanwyr a Chanadiaid o linach Gymreig. Fe'i hadnabuwyd fel y ‘Llyfrgell Gyffredinol’ tan 1976, pan symudwyd y rhan fwyaf o'r casgliadau i'r llyfrgell newydd, sef Llyfrgell Hugh Owen. |
| 1893 | Prifysgol Cymru yn cael ei hymgorffori gan y Siarter Frenhinol. |
| 1895 | Yr Athro Anwyl a'r Athro Ainsworth Davies yn cyfansoddi 'Cân y Coleg' gyda cherddoriaeth gan Mr David Jenkins Msc.Bac., i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. |
| 1896 | Ar 26 Mehefin, tywysog Cymru yn cael ei sefydlu'n Ganghellor, a Thywysoges Cymru yn agor y neuadd newydd i fenywod, Alexandra, a enwyd ar ei hôl. Gyda rhai'n cyfeirio'n aflednais at y neuadd fel ‘Yr Hostel,’ dechreuodd eraill alw'r neuadd i fenywod yn ‘Nyth y Golomen.’ Gladstone, y Prif Weinidog yn cael gradd er anrhydedd. |
| 1890au | Tri hyfforddwr Llaeth yn cael eu penodi i sefydlu ysgolion llaethdy teithiol i ddarparu hyfforddiant lleol mewn gwneud menyn a chaws. Daeth hyfforddiant llaeth yn nodwedd amlwg o hyfforddiant amaethyddol yn Aberystwyth fel y tystia'r Ysgol Laeth uchel ei pharch. |