Esgyniad y Brifysgol
| 1901 | Sefydlu Adran y Gyfraith - y gyntaf yng Nghymru. |
| 1901 | Sefydlu yr Adran Gwyddor Llaeth. |
| 1901 | Agor y neuadd breswyl gyntaf i ddynion. |
| 1901 | Penodi T. A. Levi yn Athro Saesneg a Jethro Brown yn Athro Cyfraith Gyfansoddiadol a Chymharol. |
| 1905 | Am y tro cyntaf, clywir y floedd ryfedd a chwedlonol, "Bloedd y Coleg", yng Nghwad y Coleg. |
| 1906 | Penodi Syr C. Bryner Jones yn Athro Amaethyddiaeth. Daeth Jones yn gymeriad dylanwadol tu hwnt yn natblygiad amaethyddol Cymru, yn enwedig ar ôl iddo gael ei benodi yn Gomisiynydd Amaethyddol i Gymru. Bu'n ymwneud â bron iawn pob mudiad i hybu buddion amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gynnwys datblygu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sefydlu'r Orsaf Fridio Planhigion, Cyfnodolyn Amaethyddiaeth Cymru ac Adran Economeg Amaethyddol y Brifysgol. |
| 1907 | Y teulu Davies o Landinam yn parhau â'u haelioni tuag at y Brifysgol trwy roi rhodd o £23,000 tuag at adeiladu adeilad Edward Davies. |
| 1908 | Tîm rygbi XV cyntaf y Brifysgol yn dechrau ar rediad o 15 mlynedd heb eu trechu. Ymdrechion chwaraeon nodedig eraill yn cynnwys: nofio, rhwyfo, pêl-droed, hoci, tenis, criced, athletau a golff. |
| 1909 | Syr John Williams yn cyllido swyddi newydd i ddarlithwyr ym maes Hanes Cymru a Llenyddiaeth Gymraeg. Archifau'r Brifysgol yn cadw casgliad o eitemau amrywiol o eiddo Syr John Williams. Ceir rhagor o fanylion am y casgliad hwn yma. |
| 1909 | Y Llyfrgell Genedlaethol yn agor yn yr Ystafelloedd Ymgynnull. |
| 1909 | Sefydlu'r Adrannau Mathemateg Gymhwysol a Mathemateg Bur. |
| 1912 | Sefydlu yr Adran Botaneg Amaethyddol. |
| 1912 | T. Gwyn Jones yw'r unigolyn cyntaf i'w ddyrchafu i radd a theitl Darllenydd ym Mhrifysgol Cymru. |
| 1914 | T. H. Parry-Williams yn ymuno â staff Adran y Gymraeg ac yn dod yn Athro y Gymraeg ym 1920. |
| 1917 | Yr Adran Addysg yn darparu cyrsiau dwys am ddim i hyfforddi cyn-filwyr anabl oedd yn dymuno hyfforddi i fod yn athrawon. |
| 1918 | R.D. Laurie yn olynu H.F. Fleure fel pennaeth yr Adran Sŵoleg. Trwy haelioni Samuel Vestey, sefydlwyd cadair newydd mewn Sŵoleg ym 1922, gyda Laurie yn ddeiliad cyntaf iddi. Mewn cyfnod o lymder ariannol, profodd Laurie ei fod yn arweinydd ysbrydoledig. Ar ôl methu â pherswadio awdurdodau'r Brifysgol i gyllido adeilad ar gyfer yr adran i gywion bach, fe wnaeth Laurie a'i gydweithwyr adeiladu’r adeilad eu hunain. Roedd Laurie hefyd yn weithgar o ran gwella amodau gwaith staff prifysgolion Prydain. Ef oedd y sylfaenydd, y Llywydd cyntaf ac Ysgrifennydd Anrhydeddus y Gymdeithas i Athrawon Prifysgol. |
| 1918 | Ar 29 Mai, Aberystwyth yw'r brifysgol gyntaf ym Mhrydain i ganiatáu i fyfyrwyr astudio ar gyfer graddau cyntaf ac uwch mewn Daearyddiaeth yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau a'r Gwyddorau. |
| 1918 | David Davies, ynghyd â'i chwiorydd, Gwendoline a Margaret, yn rhoi £20,000 i sefydlu cadair Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Galluogodd hyn i Aberystwyth |
| 1919 | Sefydlu canghennau o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth yn India, Burma a Ceylon. |
| 1919 | Lawrence Philips, yr Arglwydd Mitford yn ddiweddarach, yn rhoi £10,000 i sefydlu Gorsaf Bridio Planhigion. Ar 25 Ebrill, derbyniodd R.G. Stapledon |
| 1919-1939 | Ym Mrongoch, fferm y Brifysgol, yn dilyn grantiau gan Fwrdd Marchnata'r Ymerodraeth, datblygwyd amrywiaeth fawr o laswellt (S.23 Rhygwellt, S.48 Rhonwellt y gath, yr amrywiaethau byswellt S.37 ac S.143, a'r meillion S.100 ac S.123), sy'n trawsffurfio glaswelltiroedd y byd. |
| 1920 | Aberystwyth yw'r coleg cyntaf yng Nghymru i sefydlu Adran Astudiaethau Allanol. |
| 1923 | Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn rhoi Ystafelloedd y Cynulliad i'w defnyddio fel Undeb y Myfyrwyr. Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol gan Ei Uchelder Brenhinol Edward, Tywysog Cymru ar 30 Hydref. I nodi'r digwyddiad, gwnaeth y Brifysgol ddadorchuddio'r unig gerflun cyhoeddus o'r Tywysog ym Mhrydain. |
| 1929 | Cynlluniau yn cael eu gwneud i ganolbwyntio datblygiadau adeiladu yn y dyfodol ar safle Penglais. |
| 1929 | Sefydlu yr Adran Economeg Amaethyddol. |
| 1930 | Penodi Dr Lily Newton yn Athro Botaneg. Dan ei harweiniad hi, ehangodd yr adran a sefydlu enw sylweddol am ragoriaeth ymchwil a'i dysgu. Ym 1952 daeth yr Athro Newton yn Bennaeth Gweithredol y Brifysgol. |
| 1931 | Aberystwyth yw'r Brifysgol gyntaf drwy'r byd i sefydlu cadair Hanes Cymru. |
| 1933 | Neuadd y Coleg yn cael ei ddinistrio gan dân. |
| 1938 | Y Coleg yn cael ei arfbais. Mae'n cynnwys y chwedl: 'Nid Byd, Byd Heb Wybodaeth'. |
| 1939 | E. H. Carr, yr Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn cyhoeddi ‘The Twenty Years Crisis’ testun arloesol am wleidyddiaeth ryngwladol. Mae'r gwaith clasurol hwn yn dal i fod ar gael mewn print, yn ogystal â'i waith 'What is History?'
|
| 1939 | Alban Davies, marsiandwr llaeth wedi ymddeol, yn rhoi £35,000 i'r Brifysgol i brynu 205 o erwau o dir ar Benglais. |
| 1940 | E. J. Williams yn yr adran Ffiseg yn 'cynnal y mwyaf trawiadol o'i gyflawniadau arbrofol ... dangos yn uniongyrchol drwy siambr fwg dadafaeliad mesonau pelydrau cosmig mewn i electron. Yn ddiweddarach gwnaeth Williams gyfraniadau pwysig i'r ymgyrch yn erbyn yr 'U-boat', gan alluogi i'r Cynghreiriaid ymosod ar Ewrop o'r môr'. |
| 1939-1945 | Nifer o aelodau o staff yn yr Adrannau Amaethyddiaeth a'r Orsaf Bridio Planhigion, gan gynnwys D. W. Davies, E. T. Jones, Trevor Thomas, Moses Griffith, W. Ellison, T. J. Jenkins, Iorwerth Jones ac eraill, yn cael eu secondio i wasanaeth Pwyllgorau Amaethyddol y Rhyfel. Cafodd gwaith yr adrannau ei ailstrwythuro'n llawn i gefnogi'r Ymgyrch Cynhyrchu Bwyd. Cafodd ymdrechion y llywodraeth i gynyddu cynhyrchaeth tiroedd Prydain eu cyflawni trwy athrylith Syr R. G. Stapledon a'i gydweithwyr. Yn ddiweddarach byddai Syr Reginald Dorman Smith, y Gweinidog Amaethyddiaeth o 1937, yn hawlio y byddai Prydain wedi llwgu a ddim wedi gallu sefydlu unrhyw her filwrol oni bai am gyflawniadau Stapledon. |