O'r Coleg ger y lli i'r Coleg ar y bryn
| 1950 | Prynu Plas Gogerddan, cartref hynafol y teulu Pryse, a daw'n gartref parhaol i'r Orsaf Bridio Planhigion. |
| 1951 | Neuadd Pantycelyn yn agor. |
| 1955 | Ar 8 Awst, mae'r Frenhines Elisabeth II yn agor yr Orsaf Bridio Planhigion yn swyddogol ym Mhlas Gogerddan. |
| 1958-1969 | Y Prifathro Thomas Parry yw'r dylanwad sy'n arwain y gwaith o drosglwyddo'r "Coleg ger y lli" i fod yn "Goleg ar y bryn".
|
| 1963 | Sefydlu yr Adran Economeg. |
| 1965 | Nifer y myfyrwyr yn fwy na 2000. |
| 1960au | Grantiau'r Llywodraeth a chymynroddion hael gan fuddiolwyr yn caniatáu i'r Brifysgol godi adeiladau newydd ar gyfer Bioleg, y Gwyddorau Ffisegol, y Gyfadran Economeg ac Astudiaethau Cymdeithasol, Cyfadran y Gyfraith, Daearyddiaeth, Daeareg ac Astudiaethau Gwledig, yn ogystal â neuaddau preswyl. |
| 1968 | Adeilad eiconig y gwyddorau ffisegol gyda'i wyneb ceugrwm yn ymddangos Neuadd Fawr. |
| 1968 | Ceredigion yn dod yn neuadd Gymraeg i fyfyrwyr gwrywaidd, a Neuadd Davies Bryan yn dod yn neuadd Gymraeg i fyfyrwragedd. |
| 1970 | Sefydlu Coleg Amaethyddol Cymru gyda David Morris yn Bennaeth. Mewn trefniant anarferol, cyllidwyd y Coleg drwy gydbwyllgor a gyfansoddwyd o gynrychiolwyr o holl awdurdodau lleol Cymru. Ei genhadaeth wreiddiol oedd cynnig addysg alwedigaethol mewn amaethyddiaeth ac am nifer o flynyddoedd roedd yn darparu cyrsiau diploma cenedlaethol a chenedlaethol uwch cyn amrywio ei ddarpariaeth i gynnwys cyrsiau mewn rheolaeth cefn gwlad ac astudiaethau ceffylau. Yna ym 1982 datblygwyd cynllun gradd mewn amaethyddiaeth, i gynnwys blwyddyn waith, a ddarparwyd ar y cyd ag Adran Gwyddorau Amaethyddol y Brifysgol. |
| 1970 | Sefydlu yr Adran Gwyddorau Cyfrifiadurol. |
| 1970 | Y Neuadd Fawr yn cael ei chwblhau. |
| 1971 | Dyfarnu Cadair Bersonol i Gwendolen Rees yn yr Adran Swoleg a'i hethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol. Yr Athro Rees oedd y fenyw gyntaf yn gweithio yng Nghymru i gael ei hethol yn gymrawd o'r gymdeithas nodedig hon. A hithau'n aelod sylfaen o Gymdeithas Parasitoleg Prydain, roedd Rees yn arbenigwr cydnabyddedig mewn trematodau a cestodau. |
| 1971 | “Daeth y fuddugoliaeth orau erioed i'w chyflawni gan rygbi Aberystwyth ymhell o gartref yn Seland Newydd”. Dysgodd y capten, S. J. Dawes a'r hyfforddwr Carwyn James (Cymraeg 1950), lawer am rygbi ar gaeau'r Ficerdy. |
| 1971 | Penodi J. Gareth Morris, a fu cyn hyn yn gymrawd ymchwil yn Rhydychen ac yn gymrawd Rockerfeller yng Nghaliffornia, yn Athro Microbioleg. Mewn cydnabyddiaeth o'i ymchwil mewn biocemeg a ffisioleg microbaidd, etholwyd Morris yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1988. Gwasanaethodd fel aelod o'r Cyngor Cyllido Prifysgolion a'r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol ym 1991. |
| 1972 | Y Neuadd Fawr, y Clochdy a'r Cyntedd yn cael gwobrau amrywiol, gan gynnwys Medal Aur R.I.B.A. am Bensaernïaeth yng Nghymru. |
| 1973 | Sefydlu yr Adran Celf. Yr unig adran o'i math ym Mhrifysgol Cymru. |
| 1973 | Sefydlu yr Adran Drama. Yr unig adran o'i math yng Nghymru. |
| 1974 | Yr Adran Botaneg a Microbioleg yn cael ei sefydlu gan gymeryd lle yr Adran Botaneg a oedd yn bodoli am 44 blynedd cynt. |
| 1976 | Llyfrgell Hugh Owen yn cael ei chwblhau. |
| 1977 | Ceir wyth Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ar staff academaidd Aberystwyth. |
| 1978 | Sefydlu'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn yr Hen Goleg. |
| 1979 | Canmoliaeth RIBA a Gwobr Dylunio SCONUL i Llyfrgell Hugh Owen. |
| 1980 | Sefydlu'r Radd Allanol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn seiliedig ar y fanyleb fewnol, mae'r cynllun yn cynnig graddau yn y Gymraeg. Hanes Cymru, astudiaethau theatr, ffilm a theledu ac astudiaethau Celtaidd, i fyfyrwyr aeddfed sy'n astudio'n rhan amser. |
| 1986 | Cyfrifoldeb am Orsaf Fridio Planhigion Cymru yn cael ei drosglwyddo o'r Brifysgol i Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid yr AFRC. |
| 1988 | Sefydlu y Sefydliad Gwyddorau Biolegol. |
| 1989 | Fe ddaeth Coleg Llyfrgellwyr Cymru (CLlC) yn rhan o'r Brifysgol a ffurfiwyd Adran Astudiaethau Gwybodaeth. |
| 1995 | Coleg Amaethyddol Cymru yn ymuno â'r Brifysgol ac yn uno â'r Adran Gwyddorau Amgylcheddol i greu Sefydliad Astudiaethau Gwledig Cymru a phenodi Michael Haines yn Gyfarwyddwr cyntaf. Yn ddiweddarach caiff y Sefydliad ei ail-enwi'n Sefydliad Gwyddorau Gwledig. |
| 1995 | |
| 1997 | |
| 2002 | |
| 2007 | Y Cyfrin Gyngor yn dyfarnu statws annibynnol i Brifysgol Aberystwyth ynghyd â'r hawl i ddyfarnu ei graddau |
| 2008 | Y Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol yn uno â'r Brifysgol, ac ynghyd â'r Sefydliadau Gwyddorau Biolegol a Gwyddorau Gwledig, yn ffurfio'r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. |
| 2008 | Sefydlu Adran Seicoleg newydd. |
| 2010 | Aberystwyth yn dod yn bedwerydd yn y DU am Ddysgu ac Addysgu, yn ôl Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education. Mae'r arolwg barn hefyd yn dangos mai Prifysgol Aberystwyth sy'n cynnig y profiad cyffredinol gorau i fyfyrwyr yng Nghymru, gyda safle cyffredinol o 6ed ledled y Deyrnas Unedig. |