Bydd ein cynllun ffioedd ar gyfer 2013/2014 yn adeiladu ar y gwaith a gyhoeddwyd gennym yn ein cynllun ar gyfer 2012/13 i wella’n fwyfwy'r profiad myfyriwr ardderchog a geir yn Aberystwyth, i gefnogi ein myfyrwyr i lwyddo, ac i ehangu mynediad i Addysg Uwch i bawb sydd â’r gallu i gael budd ohono.
Yr ydym yn falch o’r dulliau dyfeisgar a chreadigol a ddefnyddir gennym i fynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol ac ehangu argaeledd, ac mae ein hymrwymiadau yn y cynllun ffioedd yn adlewyrchu hyn. Byddwn yn parhau, trwy’r cynllun ffioedd, i ddarparu cefnogaeth mewn ystod o ymgyrchoedd i dynnu ymaith y rhwystrau sy’n atal pobl rhag mynychu addysg uwch, gan groesawi myfyrwyr galluog a thalentog o bob cefndir a’u cefnogi er mwyn eu galluogi i wireddu eu potensial.
Yr ydym hefyd yn ymrwymedig at sicrhau y bydd pob un o’n myfyrwyr yn elwa o awyrgylch dysgu o’r safon gorau a byddwn yn buddsoddi’n helaeth yn ein safleoedd addysgu a dysgu dros y bum mlynedd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n myfyrwyr i sicrhau fod eu barn hwy yn rhan o’r ystyriaethau ar sut y defnyddir yr incwm ffioedd, ac fel rhan o gynllun 2013/14 bydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau’r myfyrwyr am y dulliau gorau i wella ac ehangu ar ein hardaloedd dysgu.
Mae’n cynllun newydd yn gosod pwyslais mwy pendant ar gyflogadwyedd. Mae’r addysg brifysgol orau yn paratoi’r myfyriwr am fywyd o ymholiad, sialensiau, a datblygiad parhaus fydd yn ei alluogi i ddeall gwerth y sgiliau sydd ganddo ef neu hi wrth law. Trwy ein cynllun ffioedd yr ydym yn buddsoddi adnoddau pellach mewn gyrfaoedd i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y dyfodol, ac yn sicrhau y bydd gan bob myfyriwr graddedig o Aberystwyth y cyfle gorau posibl o lwyddo ym mha bynnag yrfa y byddant yn ei dewis.
Yn gyffredinol, hyderwn fod y cydbwysedd gwaith yn ein cynllun ffioedd yn adlewyrchu buddsoddiad da yn natblygiad a chefnogaeth ar gyfer ein myfyrwyr a dengys ein hymroddiad i ddarparu’r profiad gorau posibl i’r myfyrwyr yn Aberystwyth a’r dyfodol gorau posibl hefyd.
Ymysg y mesurau a gynigir yng Nghynllun Ffioedd Prifysgol Aberystwyth mae:
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2012-13 (Mae'n cais ni ar gael yn ddwyieithog, ond mae ffurflen y Cyngor Cyllido ar gael yn y Saesneg yn unig)
Cynllun Ffioedd Myfyrwyr 2013-14 (Mae'n cais ni ar gael yn ddwyieithog, ond mae ffurflen y Cyngor Cyllido ar gael yn y Saesneg yn unig)
Mae cwestiynau cyffredin am ffioedd ar gael yma
Mae Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth cynhwysfawr o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau a gydnabyddir fel y rhai mwyaf gwerthfawr ym Mhrydain. Mae'n bosib y gallent leihau'r baich ariannol arnoch chi yn sylweddol wrth i chi gael addysg o'r radd flaenaf yn Aberystwyth.
Mae gwybodaeth am fwrsariaethau sydd yn cael eu cynnig gan Aberystwyth ar gael yma