Gwybodaeth i Ddarpar fyfyrwyr am ffioedd dysgu yn Aberystwyth 2012/13

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau ffi o £9,000 y flwyddyn ar gyfer myfyrwyr cartref/GE ar gyfer cyrsiau israddedig yn 2012-13. Mae lefel y ffi yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'n bwysig cadw mewn cof nad oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy o flaen llaw. Mae'r Llywodraeth yn darparu benthyciadau i dalu am ffioedd ac ni fydd y benthyciadau yma yn ad-daladwy nes y byddwch yn ennill £21,000 neu fwy. Yna, byddwch yn talu 9% o'ch incwm dros £21,000, felly os yw eich cyflog yn £25,000 byddwch yn talu 9% o £4,000, sef £30 bob mis.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar ein dealltwriaeth orau o ganllawiau'r llywodraeth. Os oes gennych gwestiynau ynghylch ffioedd dysgu, neu ffioedd llety, yna cysylltwch â'n Swyddfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr (www.aber.ac.uk/cy/finance-office/student-fees-office/useful-contacts/)

Ffioedd Dysgu

Beth yw Ffioedd Dysgu?

Bydd Ffioedd Dysgu yn cynnwys darpariaeth dysgu ar gyfer eich cwrs. Efallai y bydd angen i chi ofyn i'ch adran am unrhyw gostau ychwanegol megis costau teithiau maes a deunyddiau cwrs, gan gynnwys llyfrau testun, fel y gallwch feddwl am y rhain yn eich cyllideb. Mae ffioedd dysgu ar wahân i gostau llety a chostau byw o ddydd i ddydd.  

Pam fod Aberystwyth wedi penderfynu gosod y ffi hon?

Mae Addysg Uwch yn y DU yn wynebu lefelau sylweddol llai o arian gan y llywodraeth ganolog ac, fel Prifysgolion eraill ar draws y DU, bu'n rhaid i ni addasu ein lefelau ffioedd er mwyn sicrhau ein bod yn medru parhau i gynnal y dysgu rhagorol a'r amgylchedd dysgu yr ydym yn haeddiannol falch ohono ac y mae ein myfyrwyr yn ei ddisgwyl. Ni fydd y ffioedd yn arwain at incwm ychwanegol ar gyfer Aberystwyth, ond bydd yn gymorth i gymryd lle y lleihad mewn nawdd gan y llywodraeth.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymroddedig i wella profiad myfyrwyr. Mae myfyrwyr sy'n graddio o Aberystwyth yn derbyn gradd Prifysgol Aberystwyth.

Pam bod y ffi yn amodol ar gymeradwyaeth?

Er mwyn cael caniatad i godi ffioedd uwch na £4,000, mae'n ofynnol ar bob Prifysgol Gymreig i gynhyrchu Cynllun Ffioedd, i'w gymeradwyo gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Rhaid i hwn ddangos sut y bydd y Brifysgol yn defnyddio incwm gan y myfyrwyr i fuddsoddi mewn gweithgareddau sy'n hybu cyfle cyfartal neu hyrwyddo addysg uwch.

Bydd ein cynllun ffioedd yn cael ei gyhoeddi'n llawn ar ein gwefan yn yr haf, unwaith y bydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Cyllido. Rydym yn rhagweld y byddwn yn derbyn cadarnhad gan y Cyngor Cyllido ym mis Gorffennaf 2011.Listen

A fydd fy newis bwnc yn effeithio ar y ffi?

Na, bydd y ffi ar gyfer cwrs israddedig llawn-amser yn £9,000 y flwyddyn, waeth beth fo'r ddisgyblaeth academaidd. Mae hyn yn adlewyrchu'r gost i'r Brifysgol o sicrhau dysgu ac amgylchedd dysgu o ansawdd uchel a phrofiad myfyriwr ardderchog i bawb.

Mae fy nghwrs yn cynnwys blwyddyn ryng-gwrs/astudio dramor. A fyddaf yn talu'r ffi llawn am y flwyddyn ryng-gwrs/blwyddyn dramor?

Rydym yn rhagweld parhad â'r trefniadau presennol, lle y mae'r flwyddyn ryng-gwrs/blwyddyn dramor yn talu hanner y ffioedd dysgu arferol, ac rydym yn edrych ar ffyrdd o wella'r ddarpariaeth yn ystod y flwyddyn ryng-gwrs/blwyddyn dramor.

Rwy'n dechrau yn 2011, a fydd fy ffi yn newid?

Na. Os wnaethoch ddechrau eich cwrs yn 2011, y gost fydd £3,375 y flwyddyn. Bydd lefel y ffioedd newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf o 2012 ymlaen. Os ydych eisioes yn y Brifysgol, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r taliadau newydd (gweler isod am symud ymlaen o HND / Gradd Sylfaen i gradd anrhydedd).

Beth mae hyn yn golygu i fyfyrwyr

Rwy'n dod o Gymru. Sut fydd hyn i gyd yn effeithio arnaf i?

O dan y system bresennol, bydd myfyrwyr sy'n hannu o Gymru yn atebol am y £3,465 cyntaf (lefel ffioedd 2012, yn amodol ar Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr). Bydd y gost yn cael ei dalu trwy fenthyciad gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a byddwch yn dechrau ad-dalu unwaith y bydd eich enillion yn cyrraedd y trothwy o £21,000 y flwyddyn (gweler www.slc.co.uk i gael manylion am sut i wneud cais am eich benthyciad). Bydd gweddill y ffi sy'n ychwanegol at hyn yn cael ei ddiwallu gan Lywodraeth Cymru drwy grant ffioedd (yn amodol ar y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr). Nid yw'r grant ffioedd dysgu yn seiliedig ar brawf modd ac ni fydd angen ei ad-dalu.

Ydw i'n gymwys fel myfyriwr o Gymru?

Bydd pobl sydd wedi ymsefydlu yn y DU ac wedi bod yn preswylio yn y DU am dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar flwyddyn gyntaf y cwrs academaidd, yn cael eu hystyried fel myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru, at ddibenion y gefnogaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Ni fydd myfyrwyr o'r DU sy'n symud i Gymru er mwyn astudio yn cael eu hystyried fel preswylwyr cyffredin yn y lle (yn y DU) y gwnaethant symud, yn gymwys i gael cymorth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Rwyf o fannau eraill yn y DU

Mae myfyrwyr o rannau eraill o'r DU yn gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu i astudio yng Nghymru. Gallwch wneud cais am gyllid i astudio yn Aberystwyth yn yr un ffordd â phetaech yn astudio yn nes at adref. Gweler www.slc.co.uk am fanylion am sut i wneud cais am eich benthyciad.

I helpu gyda chostau eich astudiaeth, mae ein pecyn bwrsariaeth deniadol yn agored i fyfyrwyr o bob rhan o'r DU ac yn gallu bod o gymorth sylweddol gyda chostau byw, ac yn wobrau neu grantiau nad oes rhaid eu talu'n ôl.

Rwy'n dod o wlad UE tu allan i'r DU

Bydd myfyrwyr cymwys o fewn yr UE yn cael eu trin yr un fath â'r rhai sy'n hannu o Gymru, felly byddwch yn atebol i'r £3,465 cyntaf yn unig o'ch ffioedd blynyddol (lefel ffioedd 2012, yn amodol ar Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr). Bydd y swm sy'n weddill yn dod o dan grant ffioedd Llywodraeth Cymru (yn ddarostyngedig i Reoliadau Cymorth i Fyfyrwyr).

I wirio eich bod yn gymwys, gweler y canllawiau gan y llywodraeth ar http://www.direct.gov.uk/en/EducationAndLearning/UniversityAndHigherEducation/StudentFinance/index.htm.

Rwy'n ystyried gohirio fy mynediad o 2011 i 2012

Os ydych yn gohirio mynediad o 2011 i 2012, byddwch yn mynd o dan y trefniadau newydd fydd ar waith o fis Medi 2012 ac fe fydd angen i chi dalu ffi newydd.

Yr wyf yn bwriadu symud ymlaen o HND neu Radd Sylfaenol i radd Anrhydedd yn 2012

Bydd myfyrwyr sydd ar hyn o bryd ar HND neu Radd Sylfaenol sy'n symud ymlaen i radd Anrhydedd yn parhau ar y ffi ar gyfer eu HND. O 2012/2013, bydd y ffi ar gyfer yr HND a Graddau Sylfaenol yr un fath ag ar gyfer darpariaeth israddedig amser llawn eraill.    

Cefnogaeth ychwanegol gan y Brifysgol

A fydd unrhyw gefnogaeth i gynorthwyo gyda chostau byw o ddydd i dydd?

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fwrsariaethau, ysgoloriaethau a gwobrau. Mae hyn wedi cael ei adolygu'n ofalus yng ngoleuni'r cynydd yn lefel y ffioedd, ac o 2012/2013 dyma fydd ein pecyn mwyaf hael hyd yma, fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau y gall myfyrwyr o bob grŵp incwm barhau i gael mynediad i addysg uwch. Mae dros 50% o'n myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth gan Fwrsariaethau Aberystwyth ar sail incwm. Gweler y wefan ganlynol am fanylion http://www.aber.ac.uk/en/scholarships

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymaint o gefnogaeth i'n myfyrwyr ag y bo modd ac rydym wedi penodi 'doctor arian' yn ein Canolfan Croesawu Myfyrwyr, er mwyn rhoi unrhyw arweiniad o ran rheoli eich arian. Peidiwch ag oedi cyn gofyn am gymorth neu gyngor. Rydym yma i'ch helpu http://www.aber.ac.uk/en/student-support/

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael benthyciadau'r llywodraeth a allai fod o gymorth gyda costau byw. Am fwy o wybodaeth, gweler y dolenni isod.

Ad-daliadau

Pryd fyddaf yn gorfod talu ffioedd yn ôl?

Nid ydych yn gorfod talu'r ffioedd o flaen llaw. Byddwch yn gallu cymryd benthyciad i dalu eich costau ffioedd, y byddwch wedyn yn dechrau ei ad-dalu unwaith y byddwch yn ennill o leiaf £21,000. Ar y pwynt hwn, bydd yn rhaid i chi dalu 9% o'ch cyflog dros £21,000. Bydd cyfraddau cynyddol amrywiol yn cael eu codi, fydd yn ddibynnol ar eich incwm.

Er enghraifft, byddai'r taliadau ar gyflog o £25,000 y flwyddyn yn 9% o'r £4000 yn uwch na'r trothwy o £21,000, neu £30 y mis.

Golyga hyn, o dan y system newydd, y byddwch yn talu llai bob mis ar ôl i chi ddechrau ad-dalu eich ffioedd nag o dan y system bresennol.

Os yw eich incwm blynyddol yn syrthio o dan £21,000, bydd y taliadau yn cael eu gohirio hyd nes y bydd yn codi uwchben y trothwy unwaith eto.

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi wneud taliadau?

Wedi 30 mlynedd, bydd y benthyciad a'r llog cronedig yn cael ei ddileu. Yn ystod y cyfnod hwnnw, byddwch yn cael eich holi i wneud taliadau pan fydd eich cyflog wedi bod yn fwy na £21,000 (ffigwr sy'n fynegrifol a gellir disgwyl iddo godi dros amser), ac ar 9% o'r gwahaniaeth rhwng £21,000 a'ch cyflog.

Myfyrwyr Eraill

Byddaf yn astudio'n rhan-amser. Sut bydd hyn yn effeithio arnaf?

O 2012 ymlaen, disgwylir y bydd myfywyr rhan amser yn gallu cael mynediad i fenthyciad ffioedd dysgu yn dibynnu ar lefel dwyster y cwrs. Rydym yn aros am fanylion pellach ar hyn.

A fydd hyn yn effeithio ar fyfyrwyr rhyngwladol?

Ni fydd newidiadau mewn ffioedd y DU yn effeithio ar fyfyrwyr rhyngwladol. Bydd y rhain yn parhau i gael eu gosod ar wahân a'u cyhoeddi ar ein gwefan.

A fydd hyn yn effiethio ar fyfyrwyr ôl-raddedig?

Bydd y ffioedd ôl-raddedig yn parhau i gael eu gosod ar wahân a byddant yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Cysylltiadau defnyddiol

Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'w weld ar y safleoedd canlynol: