Croeso i Brifysgol Aberystwyth
Croeso
Croeso i Brifysgol Aberystwyth! Os ydych yn ystyried bod yn fyfyriwr yma, neu’n awyddus i ddatblygu cysylltiadau busnes â’m cydweithwyr, neu’n dod yn ôl i’ch hen goleg neu weithle, neu ddim ond eisiau cael gwybod mwy am ein cynlluniau a’n llwyddiannau (a’r dref, y cefn gwlad, a’r arfordir gwych sydd o’n cwmpas yma), rydw i wrth fy modd eich bod am dreulio ychydig o amser gyda ni.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn ei hanes sy’n mynd yn ôl i 1872 - pan sefydlwyd gan bobl Cymru fel Prifysgol gyntaf yng Nghymru. Ers y dyddiau cynnar mae’r Brifysgol wedi datblygu ei chryfderau mewn amryw o feysydd. Mae gennym ymroddiad a chanlyniadau eithriadol yn ein gwaith dysgu a’n hymchwil fel ei gilydd, a chyfeillgarwch mawr â’r dref a’r gymuned leol, a bydd yn rhaid inni ddatblygu ymhellach ar y seiliau hynny yn y dyfodol. Mae’r cryfderau hynny, wrth gwrs, yn dod yn syth o ymdrechion ac ymroddiad ystod eang o bobl eithriadol; gydag ymroddiad eithriadol y myfyrwyr, y staff academaidd a’r staff cynorthwyol proffesiynol, yn gweithio ar y cyd er mwyn darparu profiad myfyrwyr ardderchog a lle gwych i weithio.
Mae hi’n adeg heriol i Addysg Uwch. Ar lawer agwedd, mae’r llyfr rheolau yn cael ei ailwampio’n llwyr, ond mae rhai egwyddorion pwysig sy’n aros yn ddigyfnewid. Dyma’r blaenoriaethau a fydd yn aros yn y Brifysgol hon: cyfleoedd dysgu ardderchog; cymorth i fyfyrwyr sy’n arwain y byd; ymchwil sydd ar flaen y maes mewn ystod eang o ddisgyblaethau academaidd - a hyn oll mewn amgylchedd sydd heb ei ail. Bydd fy nhîm gweithredol a’r gymuned ehangach ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dal ati i ganolbwyntio’n ddiflino ar y gwerth y gallwn ei ychwanegu ar gyfer ein graddedigion sy’n ddelfrydol i fyd gwaith, y prifysgolion a’r busnesau sy’n bartneriaid inni, a’n cyfeillion yn y gymuned leol, ac ar gyfer yr economi ac ansawdd bywyd yng Nghymru, Prydain a’r byd.
Mae’n bleser ac anrhydedd imi arwain Prifysgol Aberystwyth yng ngham nesaf ei hanes, cam a fydd yn hanfodol bwysig. Os hoffech gael gwybod rhagor, byddaf i a’m cydweithwyr (gan gynnwys rhai o’r bobl allweddol a restrir isod, a allai fod yn gyswllt cyntaf i chi) yn hapus i’ch helpu - mae croeso i chi bori drwy’r wefan, neu roi galwad, neu ddod draw i’n gweld ni. Rwy’n eich gwahodd chi i ystyried sut y gallwch chi fod yn rhan o’n dyfodol, ac i gael gwybod mwy am sut y gallwn ni helpu i ehangu’ch gorwelion.
Yr Athro, April McMahon
Is-Ganghellor
Am fwy o fanylion am Brifysgol Aberystwyth, cysylltwch gyda’r isod, neu ewch i’n tudalen cysylltiadau.
| Enw | Teitl | Rhif ffôn | Ebost |
|---|---|---|---|
|
Yr Athro April McMahon |
Is-Ganghellor |
01970 622002 |
|
|
Rebecca Davies |
Dirprwy Is-Ganghellor, Gwasanaethau Staff a Myfyrwyr |
01970 622008 |
|
|
Yr Athro Aled Jones |
Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant |
01970 622010 |
|
|
Yr Athro Martin Jones |
Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Cysylltiadau, Menter |
01970 622008 |
|
|
Yr Athro John Grattan |
Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol |
01970 622011 |
|
|
Dr Catrin Hughes |
Cofrestrydd ac Ysgrifennydd |
01970 622004 |
|
|
Lucy Hodson |
Cyfarwyddwr Cynllunio |
01970 622011 |
|
|
Yr Athro Neil Glasser |
Deon dros dro, Cyfadran y Celfyddydau |
01970 622525 |
|
|
Yr Athro Tim Woods |
Deon Cyfadran y Celfyddydau |
01970 622525 |
|
|
Yr Athro Len Scott |
Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol |
01970 622525 |
|
|
Yr Athro Colin McInnes |
Deon Astudiaethau Uwchraddedig |
01970 622525 |
|
|
Dr John Powell |
Cyfarwyddwr, Cymorth Myfyrwyr |
01970 621761 |
|
|
Mrs Liz Flint |
Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori |
01970 622305 |
|
|
Ms Sue Chambers |
Cyfarwyddwr, Adnoddau Dynol |
01970 622055 |
|
|
Mr Alan Hewson |
Cyfarwyddwr, Canolfan y Celfyddydau |
01970 622884 |
|
|
Mr Julian Smyth |
Cyfarwyddwr, Datblygu a Chysylltiadau Alumni |
01970 621884 |
|
|
Dr Hywel Davies |
Cyfarwyddwr, Denu a Derbyn |
01970 622019 |
|
|
Mr James Wallace |
Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Preswyl a Chroeso |
01970 621951 |
|
|
Mrs Rachel Tod |
Cyfarwyddwr, Swyddfa Rhyngwladol |
01970 628702 |
|
|
Mr Lyn Morgan |
Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus |
01970 628654 |
|
|
Mr Gary Reed |
Pennaeth y Swyddfa Ymchwil |
01970 621789 |
|
|
Dr Russell Davies |
Rheolwr Marchnata |
01970 622019 |
|
|
Dr Mari Elin Jones |
Rheolwraig, Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg |
01970 622045 |
|
|
Dr Andrew G Walker |
Ymgynghorydd lechyd, Diogelwch ac Amgylchedd |
01970 622384 |
|
|
Mr Roger Matthews |
Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Gwybodaeth | 01970 622471 |