Yr Athro April McMahon

Cychwynnodd yr Athro April McMahon yn Is-Ganghellor ar 1 Awst 2011. Cyn hynny roedd yn Is-Brifathro Polisi Cynllunio, Adnoddau ac Ymchwil ym Mhrifysgol Caeredin. Enillodd radd MA ym maes Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ac yna Doethuriaeth ym maes Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin. Bu’n dysgu yn yr Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt am 12 mlynedd, lle’r oedd hefyd yn Gymrawd yng Ngholeg Selwyn, a bu’n Athro Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sheffield o 2000 tan 2004.

Yn 2005 penodwyd yn Athro Forbes iaith Saesneg ac yn bennaeth yr Adran Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin ac wedyn yn Bennaeth Coleg y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol cyn dod yn Is-Brifathro yn 2009.

Ieithyddiaeth yw ei disgyblaeth academaidd ac mae ei hymchwil wedi canolbwyntio ar gymariaethau rhwng gwahanol dafodiaethau Saesneg, gyda diddordeb arbennig mewn Sgoteg, sut mae ieithoedd yn newid, astudiaethau amlddisgyblaethol o’r berthynas deuluol rhwng ieithoedd, a goblygiadau ieithoedd mwyafrifol tresmasol. Y mae hi’n awdur ac yn gydawdur nifer o gyfrolau, ac yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Caeredin ac o’r Academi Brydeinig. Mae’r Athro McMahon yn briod a thri o blant.