Ceisiadau i’r Weithrediaeth

I wahodd aelod o’r Weithrediaeth i gyfarfod neu ddigwyddiad, neu i ofyn iddynt fod yn bresennol mewn cyfarfod neu ddigwyddiad, cysylltwch â’r Cynorthwyydd Personol perthnasol yn Swyddfa’r Is-Ganghellor yn y lle cyntaf. Mae dolen i’w manylion cyswllt ar gael ar waelod y dudalen.

Meddyliwch am y cwestiynau/gwybodaeth isod cyn cysylltu â Swyddfa’r Is-Ganghellor a cheisiwch roi cymaint o rybudd ag y bo modd cyn y digwyddiad/cyfarfod:

  • Pa aelod o’r Weithrediaeth sydd ei angen? Sawl aelod o’r Weithrediaeth sydd eu hangen?
  • Beth fydd disgwyl i’r aelod o’r Weithrediaeth ei wneud? A fydd gofyn iddo/iddi fod yn bresennol yn y digwyddiad/cyfarfod, neu ei gadeirio neu ei agor?
  • Os bydd yn cadeirio neu’n agor y digwyddiad/cyfarfod, rhowch gefndir a nodiadau gwybodaeth llawn.
  • Rhowch gynifer o fanylion ag y gallwch wrth ofyn i aelod o’r Weithrediaeth fod yn bresennol er mwyn i ni allu ymateb yn gyflym i’ch cais.

I gael gwybod mwy ynglŷn â sut i gysylltu â Chynorthwywyr Personol y Weithrediaeth cliciwch ar y ddolen isod:

Staff y Swyddfa'r Is-Ganghellor