Oriel Ffotograffau Aberystwyth
Beicwyr Mynydd

Mae´r bryniau o amgylch Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hamdden. Ymysg y mwyaf poblogaidd mae beicio mynydd. Ceir nifer o lwybrau heriol yn agos i´r dref, yn rhoi cyfle cyffrous i feicwyr o bob safon. Ymysg y llwybrau mwyaf poblogaidd mae´r rheiny sy´n cychwyn ar y mynydd ym Mwlch Nant yr Arian sydd nepell o´r dref.












