Taith Rithwir
You don't appear to have Flash installed. Please download it here to view this video.
Mae’r myfyrwyr sydd eisoes yma’n gwybod bod Prifysgol Aberystwyth yn unigryw ,dyna pam ein bod yn un o'r Prifysgolion mwyaf poblogaidd. Mae’r Brifysgol a’r Dref yn darparu’r profiad myfyriwr gorau posibl drwy raglenni gradd arloesol, bywyd myfyriwr wedi ei ganoli ar y campws, cefn gwlad arbennig, traethau hardd a golygfeydd anhygoel o’r môr. Mae gan Aberystwyth gymuned sy’n gweddu i fyfyrwyr a’u ffordd o fyw; mae naws gyfeillgar y dref yn cael ei hatgyfnerthu gan raddfa droseddu hynod isel. Ym Mhrifysgol Aberystwyth fe gewch y cyfle i wneud y mwyaf o’ch profiad fel myfyriwr.
Mae’r daith rithwir yn golygu y cewch weld elfennau o beth i’w ddisgwyl ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ond er mwyn darganfod yn union beth sydd yn ein gwneud yn unigryw, dewch i’n gweld ar ein Diwrnodau Agored a darganfyddwch drosoch eich hun pam mai ni yw’r “brifysgol orau yn y wlad am foddhad myfyrwyr”.
**The Times Good University Guide 2009