Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

You don't appear to Flash installed. Please download it here to view this video.
Alternatively you can download the tour of the Arts Centre in MP4 format here.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw’r ganolfan celfyddydau fwyaf a phrysuraf yng Nghymru ac yn un sydd wedi ennill sawl gwobr yn y gorffennol. Mae’n cynnig rhaglen helaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys drama, cerddoriaeth glasurol, dawns, cerddoriaeth bydeang, ffilm, darlleniadau llenyddol, bandiau byw, opera a chomedi. Mae yma rywbeth i bawb yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

A hithau wedi’i chydnabod yn ddiweddar gan y Western Mail fel “eicon cenedlaethol i’r celfyddydau” mae rhaglen arddangosfeydd Canolfan y Celfyddydau yn un o’r ychydig fannau yng Nghymru a gydnabyddir yn Ganolfan Ragoriaeth gan Gyngor y Celfyddydau.

Mae Canolfan y Celfyddydau yn croesawu dros 650,000 o ymwelwyr y flwyddyn, ac mae bron i 100,000 yn mwynhau ei rhaglen unigryw o gelfyddyd ac addysg gymunedol. Y mae’n un o ddarparwyr addysg gelfyddydol fwyaf y DU.