Cymorth
Neidiwch am gymorth i’r dall a’r rhai sydd â golwg rhannolNeidiwch am gymorth i’r byddar a’r trwm eu clyw
Rydym wedi ceisio sicrhau bod yr holl gynnwys ar y daith ryngweithiol yn addas ar gyfer defnyddwyr sydd ag anableddau clywed neu gweld. Mae’r holl gynnwys ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac rydym wedi creu disgrifiadau sain dwyieithog a geiriad i’r holl ddeunydd fideo. Gellir lawrlwytho’r holl ffeiliau fideos gyda geiriad a disgrifiadau sain arnynt. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yna cysylltwch â ni ar bob cyfrif.Cymorth i’r dall a’r rhai sydd â golwg rhannol
Mae’r daith ryngweithiol a’r holl dudalennau perthnasol wedi eu optimeiddio ar gyfer eu defnyddio gyda darllenyddion sgrîn. O ganlyniad i hynny mae’r holl gynnwys ar gael drwy ddefnyddio meddalwedd darllennydd sgrîn.
Mae gan yr holl gynnwys fideo draciau drisgrifiadol clywedol er mwyn cynorthwyo defnyddwyr i ddilyn yr hyn sy’n digwydd yn y fideos. Er mwyn troi’r disgrifiadau clywedol ymlaen dewisiwch y botwm disgrifiad clywedol o fewn yr elfen fideo.
Cymorth i’r byddar a’r trwm eu clyw
Mae gan y deunydd fideo ar y safle hwn eiriad caëdig ar gael i ddefnyddwyr gydag anableddau clywed. Er mwyn troi’r geiriad caëdig ymlaen cliwicwch ar y botwm "T" ar banel rheoli’r fideo.