Llyfrgell Hugh Owen

You don't appear to Flash installed. Please download it here to view this video.
Alternatively you can download the tour of Hugh Owen Library in MP4 format here.

Mae Llyfrgell Hugh Owen ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd wedi ennill gwobrau. Mae ynddi dros 800,000 o lyfrau, cyfnodolion ac amrywiaeth aruthrol o gronfeydd-data electronig a chasgliadau academaidd, a’r cyfan hyn yn sicrhau i chi’r amgylchedd dysgu gorau posibl i astudio ynddo.

Serch hynny, nid llyfrau a chyfnodolion yn unig a gynigir gan Lyfrgell Hugh Owen. Mae’n gartref i ystafelloedd cyfrifiaduron o’r radd flaenaf sy’n llwythog o feddalwedd angenrheidiol i holl brif gyrsiau’r Brifysgol. Mae llawer o ddefnyddwyr y Llyfrgell yn defnyddio adnoddau fideo-gynadledda newydd y Llyfrgell yn ogystal â’i gwasanaeth argraffu helaeth.

Mae gan Lyfrgell Hugh Owen ganolfannau dysgu hefyd; maent wedi’u cynllunio a’u dodrefnu’n benodol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae’r canolfannau hyn yn cael eu rhedeg gan staff arbenigol sydd yno i helpu unrhyw fyfyriwr ag anhawsterau dysgu.

Mwynhau’r golygfeydd dros Aberystwyth yw’r norm gan fod Llyfrgell Hugh Owen yn wynebu’r Gorllewin dros Fae Ceredigion a’i holl ogoniant.